Hedd Wyn yn dal i siarad â chynulleifaoedd newydd

6 Mawrth 2015

Gan Gwenda Richards

Dyma’r degfed gwaith i ‘r actor Huw Garmon weld y ffilm ‘Hedd Wyn’ yng nghwmni cynulleidfa ers i’r ffilm gael ei enwebi  am Oscar yn 1994 ond mae ei ymateb iddi yn wahanol bob tro.

“Mae’r ffilm yn parhau i siarad a wahanol gynulleidfaoedd, ac wrth gwrs i genhedlaeth newydd erbyn hyn. Dwi wedi ei gweld hi gyda phobl ar draws y byd, ac mae nhw i gyd yn gwerthfawrogu safon y ffilm a’i neges. ”

Mewn noswaith a drefnwyd fel rhan o Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918 fe fu’r actor yn talu teyrnged i’r cyfarwyddwr Paul Turner a’r rhai fu’n gweithio ar y ffilm gan S4C, y ffilm Gymraeg gyntaf i gael  ei henwebi am Oscar yn y categori Ffilm mewn iaith dramor.

“Roedd gan Paul weledigaeth ar ddechrau’r 90 au ac oherwydd ei ddyfalbarhad e, mi lwyddodd e greu ffilm arbennig iawn.”

Doeddwn i heb weld y ffilm ers iddi gael ei darlledu, ac felly yn disgwyl iddi fod wedi pylu tipyn o safbwynt arddull neu emosiwn oherwydd mae hanes y Bardd Trwm wedi serio ar feddyliau pobl o’m hoedran i, ond na, mae hi’n dal ei lle fel un o ffilmiau mwyaf grymus am y rhyfel byd cyntaf, ac yn sicr cystal a Testament of Youth sydd allan nawr ac yn olrhain hanes Vera Brittain a’i chyfoedion.

Yn dilyn y gymeradwyaeth uchel gan y gynulleidfa yn Chapter, cafwyd trafodaeth ar sut ddylwn ni’r Cymry goffhau’r Rhyfel Mawr. Yn y gadair oedd yr Athro Syr Deian Hopkin, gyda Huw, yr Athro Richard Wyn Jones o adran gwleidyddiaeth Prifysgol Caerdydd , yr hanesydd a’r nofelydd Dr Jonathan Hicks pennaeth ysgol St Cyres Penarth a David Hughes, pennaeth y Comissiwn Ewropeaidd yng Nghaerdydd.

Panelwyr y sgwrs am y Rhyfel mawr

Panelwyr y sgwrs am y Rhyfel mawr

Atgoffodd Syr Deian nad oedd neb ar ol yn fyw bellach oedd yn y rhyfel felly roedd na gwestiwn yn codi am sut rydym yn cofio digwyddiadau’r rhyfel. ” Mae’n rhaid i ni ddehongli’r rhyfel drwy lygaid pobl eraill, ac a ddigwyddodd pethau yn gwmws fel rydym yn ei cofio, ‘ meddai. “Mae’r ffilm hon yn rhyfeddol, amdano person rhyfeddol ac mae colled bardd yn enfawr.”

Roeddwn i’n cytuno gyda Dr Hicks fod portreadau’r menwod yn y ffilm, cariadon Ellis, ei fam a’i chwiorydd yn llawer mwy cyflawn. Roedd y ffilm yn canolbwyntio ar benbleth Ellis ynghylch ymuno a’i peidio ac fe ddwedodd yr Athro Richard Jones bod  yna gefnogaeth mwy llugoer yng nghefn gwlad Cymru i’r ymladd nag sydd yn aml yn cael ei bortreadu – doedd dim llawer o’r  gungho yn perthyn i lanciau Eryri. Cael ei gonsgriptio wnaeth Ellis ac fe fu farw yn un o frwydrau erchyll Passchendaele, chwe wythnos cyn i’r Archdderwydd yn Eisteddfod Penbedw gyhoeddi ei fod wedi ennill y gadair am ei awdl Yr Arwr.

Y ffosydd

Y pridd tramor

“Ymateb emosiynol sydd gennym ni i’r ffilm a dyna rôl celfyddyd, ‘ meddai’r actor sydd nawr yn darlithio ym mhrifysgol Glyndŵr, Wrecsam. “Fy nod i oedd portreadu eicon cenedlaethol fel rhywun o gig a gwaed.”

Roedd y dangosiad hwn yn rhan o gynnig swyddfa Cymru y Comisiwn Ewropeaidd i goffau’r rhyfel drwy  ddangos cyfres o ffilmiau i ennyn trafodaeth ac i dynu sylw at gwaddol y rhyfel yng Nghymru heddiw.

 

 

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma