
Wel, am anrheg Dolig! Pa ŵr yn ei iawn bwyll fyddai’n mentro prynu’r fath beth i’w wraig?? Ie, chi’n iawn, fy annwyl ŵr i. Dyna gefais ddydd Nadolig diwetha’ – tanysgrifiad i Runners’ World a lle yn Hanner Marathon Caerdydd (ymysg pethau eraill, neisach, rhaid cyfaddef). Dwi dal ddim yn gwbl sicr ai jôc sâl oedd hyn neu arwydd o’r ffydd oedd ganddo ynof i i allu gwneud y ras.
I roi ychydig o gyd-destun, roedd e eisoes wedi trefnu i mi redeg ras 10k Sefydliad Aren Cymru y llynedd, a hynny o ganlyniad uniongyrchol i’r ffaith bod fy nhad wedi cael trawsblaniad aren rai misoedd cynt. Felly doedd gen i ddim esgus i beidio ag ymateb i’r her. Roeddwn wedi osgoi ymarfer corff dros gyfnod hir ac roedd yr esgus ’mod i newydd gael babi wedi hen ddiflannu (roedd yr un bach bron yn 3!). Ar gyfer 10k 2012, es i ati i ymarfer yn weddol reolaidd er mwyn rhoi cynnig go lew ar wneud yn dda. Prynais bâr pinc llachar LLACHAR o sgidiau rhedeg ac allan â fi ar hyd hewlydd Creigiau. Gwnes i’r ras mewn 55:36 a dyna ni – roedd fy ras gyntaf wedi’i chyflawni. Wedi hynny, gwnes i 10k Movember a mwynhau’r profiad ychydig yn fwy na’r tro cyntaf.
Ond, rhaid cyfaddef, doedd y ‘byg’ rhedeg dal ddim wedi cydio a throi ‘nghefn ar y busnes rhedeg wnes i wedi hynny, gan wadu i fi fy hun bod yr Hanner Marathon yn bodoli. Ar ôl y Pasg eleni, dechreuais fynd i sesiynau ‘bootcamp’. Maen nhw’n anodd, yn gyflym ond yn lot fawr o hwyl. Erbyn mis Medi, ar ôl haf hir o sgwato a sbrinto am 6 y bore neu 6 y nos sawl gwaith yr wythnos, doedd dim cuddio mwyach; roedd yr Hanner Marathon ar y gorwel a finne heb redeg yn bell o gwbl gydol y flwyddyn. Felly i ddechrau’r hyfforddiant, dyma redeg 10k Sefydliad Aren Cymru eto a siafio 2 eiliad oddi ar fy amser gorau (er gwaethaf y ffaith bod mwy o prosecco yn fy nghorff na Lucozade yn dilyn priodas fy ffrind gorau y diwrnod cynt!). Dyna oedd gwir fan cychwyn yr hyfforddiant.
Mae’r ras fawr ddydd Sul. Mae’r gŵr a finne’n codi arian ar gyfer yr RNIB – mae Dad hefyd yn ddall felly rydym yn ceisio dewis elusennau sy’n agos at ein calonnau. Yn y mis diwethaf, mae Daniel wedi rhedeg 10k Caerdydd, y Great North Run a ras rwystrau Men’s Health i roi hwb ychwanegol i’r coffrau a pharatoi at yr Hanner. Dwi dal heb redeg mwy na 10.2 milltir yn fy myw a dyw’r llais bach yn fy mhen dal ddim yn gwbl ffyddiog y gallaf gadw i fynd dros y pellter cyfan. Ond bydd gwybod ein bod wedi codi arian at achos da a gweld wynebau bach y plant yn gwenu wrth i ni groesi’r llinell derfyn yn ddigon i wneud y cyfan yn werth chweil. Hynny, wrth gwrs, a’r sicrwydd y caf fi rywbeth llawer mwy sgleiniog yn anrheg Dolig eleni!
sylw ar yr adroddiad yma