gan Nia Percy
Bydd strydoedd Caerdydd dan eu sang unwaith eto eleni wrth i dros 19,000 o bobl gymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd. Mae’r ras wedi mynd o nerth i nerth ers ei chynnal gyntaf yn 2003 – gyda dim ond 1500 yn rhedeg pryd hynny!
Erbyn hyn mae’n un o’r hanner marathonau mwyaf poblogaidd Ynysoedd Prydain, ac mae wedi codi dros £2.2 miliwn at 800 o elusenau, a llawer mwy yn siwr o elwa eleni.
Yn ogystal â’r miloedd fydd yn codi arian at achosion da cynhelir ras cadeiriau olwyn a ras i athletwyr elite.
Eleni cychwynir o Gastell Caerdydd gyda’r rhedwyr yn mynd heibio i Stadiwm Dinas Caerdydd ac i gyfeiriad Penarth cyn croesi’r morglawdd, rhedeg trwy’r Bae a draw at Barc y Rhath cyn dod nôl i orffen yn y ganolfan ddinesig. Cychwynir y ras cadeiriau am 8.50 a phawb arall yn dilyn am 9. Cofiwch y bydd llawer o strydoedd y ddinas ar gau.
Ond beth sy’n eich denu i wneud y fath gamp?
Denise Allen, Treganna: Dwi’n rhedeg am yr ail dro achos nes i fwynhau’r profiad gymaint llynedd. Byddai’n codi arian at Ymchwil Cancr ar ôl i fy mam wella o’r clefyd. Mae rhedeg yn gwneud imi deimlo’n iach, yn gorfforol ac yn feddyliol ac yn rhywbeth cymdeithasol.
Emily Jenkins: Hwn fydd fy ail-hanner marathon ond y tro cyntaf imi redeg un Caerdydd. Ges i fy eni yma ond bellach rwy’n byw yn Llundain ac yn edrych mlaen at redeg heibio i gartref Mam a Dad ar y ffordd.
Jorge Suárez de Lis, Sbaen: Rwy’n 28 a dw i’n gweithio fel gweinyddwr systemau TG ym Mhrifysgol Santiago de Compostela. Mae ffrind i mi wedi bod yn gwneud cyfnod ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe ers mis Mehefin, felly yr oeddwn yn mynd i fynd i weld ef. Fel arfer, rydym yn rhedeg hanner marathon gyda’n gilydd. Rwy’n edrych ymlaen at ddydd Sul!
Beth amdanoch chi? Pam ych chi’n rhedeg dydd Sul? I godi arian, i gadw’n heini, neu i gael dipyn o sbort?
Gadewch i ni wybod!
sylw ar yr adroddiad yma