Mae milfeddygon yng Nghaerdydd yn rhybuddio fod achosion o glefyd difrifol mewn cŵn ar gynnydd.
Yn ôl Julie Stenner sy’n gweithio i gwmni ParkVets mae na gynnydd wedi bod o gŵn yn dioddef o llyngyr yr ysgyfaint Angiostrongylus vasorum (positive lungworm) yn ardal Penarth a’r Barri a’r malwod a’r gwlithenod sy’n cael y bai.
Wrth i’r hydref yma fod yn fwyn a gwlyb mae malwod a glwithen yn ffynnu ac mae’r llyngyr yn byw yn yr anifeiliaid yma ac yn trosglwyddo’r afiechyd i gŵn a llwynogod.
Os gaiff ci ei heintio fe allai fynd yn dost iawn. Mae’r symptomau yn amrywio o beswch a gwaed yn araf i ffurfio clot, i flinder affwysol a newid ymddygiad. Cŵn bach a chŵn sy’n dueddol o fwyta neu chwarae gyda’r malwod a’r gwlithod sy mewn perygl o ddal yr haint.
Dyw’r llyngyr ddim yn gallu pasio i anifeiliaid eraill nag i bobl. Ond os i chi’n amau fod na beryg i’ch ci chi ddal yr haint, ewch i weld eich milfeddyg – mae yna dabledi sy’n amddiffyn cŵn rhag y llyngyr.
Y cyngor i berchnogion cŵn yw i:
- Godi tegannau o’r ardd
- Glanhau powlenni dwr yn aml
- Codi baw ci a’i ddifa’n gyfrifol
- Siarad â’ch milfeddyg am gyngor pellach ynglŷn â symptomau a sut i amddiffyn eich ci rhag yr haint
sylw ar yr adroddiad yma