Datganiad Cwmni’r Fran Wen
Ewch â’r plant i weld sioe newydd Cwmni’r Frân Wen wsnos yma yng Nghanolfan y Mileniwm..
Mae Cwmni’r Frân Wen yn dod a chyfieithiad Cymraeg o ddrama arobryn Andy Manley, White, a gynhyrchwyd yn wreiddiol gan Gwmni Catherine Wheels o’r Alban, i’r Ganolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd.
Bydd Bryn Fôn a Rhodri Sion yn cyflwyno plant i fyd natur prydferth gwyn lle mae lle i bopeth a phopeth yn ei le.
Bywydau syml a threfnus sydd gan y ffrindiau yn Gwyn. Maen nhw’n byw mewn pabell wen ac yn gofalu am y tai adar o’u cwmpas. Bob dydd, mae’r ffrindiau’n sicrhau fod eu byd prydferth a threfnus yn parhau’n ddisglair a gwyn.
Ond, tybed beth fydd yn digwydd pan fydd lliw yn ymddangos am y tro cyntaf? Sut wnaiff y ffrindiau ddygymod â’r newid byd?
“Mae Gwyn yn berfformiad hudolus braf, sy’n cynhesu’r galon!” meddai Iola Ynyr, Cyfarwyddwr Artistig Cwmni’r Frân Wen.
“Gwelais y perfformiad am y tro cyntaf yng Nghynhadledd Theatr Plant a Phobl Ifanc Copenhagen yn 2011. Cefais fy nhgyfareddu gan ddyfnder emosiynol y cynhyrchiad. Mae ei ddelweddau, cymeriadau, cerddoriaeth a’i ddiweddglo trawiadol yn parhau’n fyw yn fy nghof”
Mae’r ddrama wedi profi’n llwyddiant ysgubol o amgylch theatrau Ewrop ac wedi ennill gwobr y Sioe Orau ar gyfer Plant a Phobl Ifanc, Theatre Awards UK 2011.
Angharad Tomos sydd yn gyfrifol am gyfieithiad chwareus yn ei defnydd o eiriau sy’n siwr o apelio at gynulleidfa ifanc.
Er mai drama cyfrwng Cymraeg yw Gwyn, bydd pecyn geirfa syml ar gael ar gyfer dysgwyr.
Mae Gwyn yn cynnig profiad theatrig cyntaf hudolus i blant ac yn eu grymuso i feddwl am liw mewn ffordd newydd.
* Gwyn, Canolfan Mileniwm Cymru, 13 Mehefin (10.30am & 1:30pm) and 14 Mehefin (10.30am & 1:30pm).
sylw ar yr adroddiad yma