Mae gwyliau’r ysgol wedi cyrraedd – ond ble’r aeth yr haul??
Ta beth, beth bynnag yw’r tywydd mae rhywbeth ymlaen yn y ddinas – dyma ganllaw sydyn Pobl Caerdydd i rhai o’r gweithgareddau sy ‘mlaen dros y gwyliau.
Traeth Bae Caerdydd: reids ac adloniant i’r teulu, tan Medi 5ed.
Canolfan Mileniwm Cymru: sioeau’n cynnwys Annie a Barnum, a gweithgareddau am ddim i’r teulu ar lwyfan Glanfa.
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd: sgyrsiau, teithiau a gweithdai i’r teulu gan gynnwys gweithdai ffotograffiaeth a chreu ffansîn, a sgwrs gwyddoniaeth Doctor Who
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru: sgyrsiau, teithiau a gweithdai i’r teulu, gan gynnwys gweithdai Hoffi Pobi, gweithgareddau natur a chyfle i gwrdd â chrefftwyr yr amgueddfa.
Castell Caerdydd: Sgarmes Ganoloesol Fawreddog 15-16 Awst
Stori Caerdydd: Hwyl Crefftau’r Haf – bob dydd Mercher yn ystod mis Awst
Techniquest: Sioe Switched On, tan 6 Medi
Criced T20 Rhyngwladol: Awst31, Lloegr v Awstralia (dynion a menywod)
Carnifal Caerdydd: Awst 8, yn cynnwys llwyfan stryd yn yr Aes a parêd
Rali Ceir Clasurol: Awst 8, Plass Roald Dahl
Pride Cymru 2015: Awst 15, Cae Coopers
Gŵyl Harbwr Caerdydd a Grand Prix Môr Cymru P1: Awst 30 a 31, Bae Caerdydd
Gŵyl Dŵr Gwyn: Medi 5, Bae Caerdydd
Chapter: adloniant a gweithgareddau creadigol
Menter Caerdydd: gweithgareddau a gweithdai chwaraeon
Carnifal Butetown: Wythnos o weithgareddau, gyda’r carnifal ei hun ar 31 Awst
Gŵyl Allan o’r Coed: 23 Awst, 10am – 4,30pm, Gerddi Sophia, yn cynnwys gweithdai gwaith coed, adar ysglyfaethus o Warchodfa Tylluanod Festival Park, sioe gŵn, gweithdy Celf Sothach a stondinau crefftau lleol – a sioe gŵn, gyda mynediad am ddim i gŵn …
Rhowch wybod os ydych chi’n gwybod am ragor o ddigwyddiadau dros y gwyliau drwy ebost at helo@poblcaerdydd.com, neu ar Twitter @PoblCaerdydd
sylw ar yr adroddiad yma