Gŵyl Tafwyl 2015 wedi llwyddo i dorri pob record

6 Gorffennaf 2015

Datganiad i’r wasg

Daeth dros 34,000 drwy gatiau Castell Caerdydd dros y penwythnos i fwynhau gŵyl gymunedol Gymraeg mwyaf Cymru – y niferoedd uchaf yn hanes yr ŵyl rhad ac am ddim ers iddi sefydlu 10 mlynedd yn ôl.

Eleni oedd y tro cyntaf i uchafbwynt yr ŵyl – Ffair Tafwyl, gael ei chynnal dros ddau ddiwrnod a daeth 22,500 o bobl ar y dydd Sadwrn, o’i gymharu ag ychydig dros 16,500 y llynedd. Drannoeth daeth 11,500 i fwynhau gweithgareddau a pherfformiadau dydd Sul cyntaf erioed Tafwyl.

Dywed Prif Weithredwr Menter Caerdydd, Sian Lewis;

” Ry’n wrth ein bodd gyda llwyddiant Tafwyl eleni. Mae’r niferoedd ddaeth i fwynhau Ffair Tafwyl yn brawf ein bod wedi llwyddo i greu gŵyl sydd ag apêl eang i Gymry Cymraeg a di-Gymraeg Caerdydd – a thu hwnt.  Ein targed eleni oedd denu 25,000 o bobl ac ry ni wedi cyrraedd ymhell tu hwnt i’r targed hynny. Roedd mwy o weithgareddau, mwy o noddwyr a mwy o bartneriaid nag erioed o’r blaen. Mae Tafwyl wedi tyfu a thyfu fel ymateb i’r galw cynyddol yng Nghaerdydd am gyfleon i gymdeithasu a mwynhau’r iaith Gymraeg.”

Eleni cafodd 200 o weithgareddau a pherfformiadau eu cynnal – o chwaraeon, celfyddydau, hanes, coginio i gerddoriaeth. Roedd rhai o brif fandiau a cherddorion Cymru yn perfformio ar dri llwyfan dros y penwythnos ond, wrth agor yr  ŵyl  dywedodd y DJ Radio 1 a llysgennad Tafwyl, Huw Stephens, mai prif “headline act” Tafwyl oedd yr iaith Gymraeg ei hun.

Clwb Ifor Bach oedd yn trefnu rhaglen gerddoriaeth yr ŵyl ar draws y Prif Lwyfan a’r Llwyfan Acwstig ac yn un o brif noddwyr yr ŵyl.  Dywed y Prif Weithredwr, Guto Brychan:

“Mae wedi bod yn benwythnos gwych. Erbyn hyn mae apêl Tafwyl mor gryf nes bod pobl yn fodlon teithio i Gaerdydd o gryn bellter am y penwythnos. Ond ochr yn ochr ag hynny mae wedi bod yn braf clywed digon o acenion Caerdydd – yn Gymraeg a di-Gymraeg, yn mwynhau a chymdeithasu. Mae’r awyrgylch wedi bod yn un arbennig iawn.”

Mae trafodaethau eisoes ar y gweill rhwng y trefnwyr Menter Caerdydd, Cyngor Dinas Caerdydd a Llywodraeth Cymru, sy’n rhoi nawdd i’r ŵyl, ac yn parhau gyda Cyngor Celfyddydau Cymru a Phrifysgol Caerdydd ynglŷn â datblygu Tafwyl ymhellach y flwyddyn nesaf.

Ychwanega Sian Lewis;

“Mae momentwm yr  ŵyl hon a’r effaith ymarferol, diwylliannol ac economaidd y mae’n ei gael ar ddinas Caerdydd yn amlwg i bawb erbyn hyn. Dros y blynyddoedd mae partneriaeth wych wedi datblygu rhwng Menter Caerdydd a nifer fawr o fudiadau a chwmnïau.  Ein gobaith ni yw manteisio ar hynny  a sicrhau bod naws Tafwyl yn parhau drwy gydol y flwyddyn gyda mwy o gyfleoedd i gymdeithasu yn y Gymraeg yng nghanolfan Gymraeg newydd y ddinas – Yr Hen Lyfrgell.”

 

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma