gan Rhys Lloyd
Dim ond dau ddiwrnod sydd tan i’r brifddinas atseinio unwaith eto i beth o’r gerddoriaeth mwyaf cyffrous a gwefreiddiol o Gymru a thu hwnt: mae Gŵyl Sŵn ar fin cyrraedd, ac am y tro cyntaf eleni bydd Pobl Caerdydd yng nghanol y wledd o adloniant a difyrrwch wrth i ni guradu un o’r nosweithiau Cymraeg, yng Ngwesty’r Angel ar 18fed Hydref.
Bydd arlwy y noson yn amrywio o dalent newydd fel Candelas, Casi Wyn, Aled Rheon a Lowri Evans i artistiaid chwedlonol fel Llwybr Llaethog a Geraint Jarman.
Dyma’r seithfed Gŵyl Sŵn ers i’r DJ Huw Stephens a Phrif Weithredwr y Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig, John Rostron, sefydlu’r ŵyl nol yn 2007. Yn gynharach eleni cafodd Sŵn ei henwebu yn y categori ‘Gŵyl Fechan Orau’ yng Ngwobrau NME ac mae’n fraint gan Pobl Caerdydd gael ei gysylltu gyda gŵyl mor llwyddiannus a phoblogaidd.
Cynhelir Gŵyl Sŵn dros bedair noson ar draws y ddinas mewn 16 o ganolfannau, gan gynnwys hen ffefrynnau fel Undeb y Myfyrwyr, Gwdihŵ, Chapter, y Globe a Chlwb Ifor, ac am y tro cyntaf, Gwesty’r Angel a Marchnad Jacob.
Ac wrth gwrs does yr un Gŵyl yn gyflawn heb ffrinj, yn cynnwys dangosiadau ffilm arbennig yn Chapter, noson cylchgrawn a diwrnodau gan griw Nyth a Peski. Yn ôl y trefnwyr, ‘bwriad Sŵn yw cyfrannu at stori cerddoriaeth Cymru.’
Byddwn hefyd yn cyhoeddi cyfres o gyfweliadau gyda’r artistiaid sy’n ymddangos ar noson Pobl Caerdydd, gan ddechrau heddiw gyda chyfweliad Owain Gruffudd gyda Candelas.
Bydd cyfweliadau Owain gyda Aled Rheon, Casi Wyn a Lowri Evans yn ymddangos dros yr wythnos nesa.
Gallwch hefyd weld Steffan Cravos yn siarad gyda John Griffiths o Llwybr Llaethog, a bydd Gareth Potter yn sgwrsio gyda Geraint Jarman. Hyn i gyd i ddod yn fuan iawn ar y wefan.
Dyma fanylion noson Pobl Caerdydd yn y Dragon Suite, Gwesty’r Angel, ar 18fed Hydref:
Plis gawni enw band ni ar eich poster bach! [LLWYBR LLAETHOG].
DIOLCH.
LL – LL
Sori!! Mae’ch enw chi yna ond mae’r jpeg i weld yn rhy fawr – gad i ni sortio fo rwan. Diolch.
Nid set DJ dani’n neud sti!
Fydd Gwenno, Rufus Mufasa & Nia Medi yn canu efo ni – sdim rhaid i hwnna fod ar y poster.
Ond pam lai…