Creu darluniau allan o weiren a chanu gyda cherddorfa byd enwog – dim ond dau o weithgareddau i’r teulu fydd yn digwydd o gwmpas y brifddinas dros hanner tymor.
Eleni fe fydd Gwyl Gelfyddydol i’r Teulu 2014 yn cynnig pob math o weithgareddau o Hydref 17 i Tachwedd 2, yn dilyn llwyddiant yr ŵyl cyntaf y llynedd. Fe gymrodd bron i hanner miliwn o bobl ran yn yr wyl dros Brydain gyfan, ac eleni mi fydd mwy o weithgareddau yn digwydd ar hyd a lled Cymru.
Martin Daws, Bardd Plant Cymru a’r actores Rebecca Harries yw llysgenadon yr Wyl ac fe gewch ddarllen mwy am Rebecca mewn cyfweliad arbennig fan hyn.
Cafodd yr ŵyl ei lansio yn 2013 fel rhan o Ymgyrch Celfyddydau Teulu sy’n anelu at wella cyfleusterau, digwyddiadau, cyfathrebu a safonau ar draws y celfyddydau , i’r gynulleidfa deuluol. Bwriad yr Ŵyl yw meithrin diddordeb gydol oes ac angerdd dros y celfyddydau ymysg pobl beth bynnag fo’u hoed. Mae’r gweithgareddau yng Nghymru yn cael eu cefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Ymhlith y nifer o fudiadau sy’n cymryd rhan mae Cerddorfa a Chorws Genedlaethol Gymreig y BBC, Artes Mundi, Cerddorfa Ieuenctid Cenedlaethol Cymru a Llenyddiaeth Cymru.
Mae’r digwyddiadau ar y gweill yn cynnwys cyfle i weu Gansey yn Stori Caerdydd, cyngherddau gyda’r gerddorfa, Sing a long a Frozen yn neuadd Dewi Sant, arlunio yn Ffotogaleri. Un o’r digwyddiadau Cymraeg yw’r un lle y gallwch weithio gyda Rhian Wyn Stone, Rheolwr Gofod Crefft yn Stori Caerdydd er mwyn creu dinasoedd dychmygus, cerfluniol gan ddefnyddio gwifren a chymryd ysbrydoliaeth oddi wrth eich hoff lefydd yn Ninas Caerdydd.
Dywedodd Nick Capaldi, prif weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru: ” Mae annog pobl o bob oed i fwynhau a chymryd rhan yn y celfyddydau yn rhan sylfaenol o’n gwaith. Felly rydym yn falch iawn o gefnogi gŵyl sy’n dod â rhaglen o ddigwyddiadau sy’ nid yn unig cynnig hwyl i’r teulu cyfan, ond sy’n eu cyflwyno i gelfyddydau arloesol, ysbrydoledig a deniadol. ”
Am fwy o wybodaeth ewch i’r wefan drwy glicio yma:
sylw ar yr adroddiad yma