Mae Gŵyl haf blynyddol Canolfan Mileniwm Cymru Blysh yn dychwelyd eleni fel nad ydych erioed wedi ei weld o’r blaen.
Ymunwch â nhw dros yr haf am ychydig o sbort a sbri direidus a hen ffasiwn gyda Blysh, gŵyl flynyddol y Ganolfan o syrcas, cabaret a chelf stryd.
Mae Blysh yn 5 mlwydd oed eleni ac i ddathlu, maent yn croesawu pabell ar thema faróc i roi llwyfan i nifer o berfformiadau, gweithdai a digwyddiadau yn ystod yr ŵyl. Foneddigion a boneddigesau… y Spiegeltent.
Gyda bythau cyfforddus, llenni cyfoethog a cherfiadau pren manwl, bydd ein Spiegeltent y tu allan i’r Ganolfan am dair wythnos fel lleoliad awyr agored newydd a chyrchfan gyda’r nos. Felly ewch i drochi ym mhopeth sydd gan Blysh i’w gynnig.
Mae’r rhaglen eleni wedi’i dewis yn ofalus ac mae’n gasgliad o’r actau cabaret, syrcas a pherfformiadau stryd gorau.
Mae’r wyl yn rhedeg o Orfennaf 19fed i Awst 4ydd 2013. Gallwch archebu tocynnau o wefan Canolfan y Mileniwm
sylw ar yr adroddiad yma