Ydych chi’n nabod rhywun yn y ddinas sy’n haeddu sylw am gamp neu weithgaredd arbennig, neu falle sy’n gweithio’n dawel fach, falle, i wella bywyd pobl eraill?
Dim ond ychydig ddyddiau sydd i fynd cyn y dyddiad cau i enwebu rhywun eithriadol am Wobr Dewi Sant 2015.
Mae’r Gwobrau, sydd bellach yn eu hail flwyddyn, yn anrhydeddu llwyddiannau eithriadol pobl Cymru. Cafodd y gwobrau eu creu er mwyn cydnabod cyfraniadau gan bobl o bob cefndir a galwedigaeth.
Mae naw categori o wobrau, Dewrder; Dinasyddiaeth; Diwylliant; Menter; Arloesedd a Thechnoleg; Chwaraeon; Person Ifanc; Rhyngwladol a Gwobr Arbennig y Prif Weinidog.
Mae’r Prif Weinidog yn awyddus bod pobl Cymru yn enwebu rhywun sy’n haeddu sylw, yn y gymuned neu yn y gweithle efallai, a dywedodd Carwyn Jones:
“Ydych chi’n gwybod am grŵp o bobl sy’n gwneud mwy na’r disgwyl i wneud gwahaniaeth i fywyd rhywun arall, neu efallai eich bod yn adnabod rhywun sydd wedi goresgyn problemau ac wedi symud ymlaen i gyflawni pethau anhygoel?
“Os felly, gadewch i ni ddathlu eu llwyddiannau, gadewch i eraill wybod am eu llwyddiant.”
I enwebu, ewch i wefan Gwobrau Dewi Sant, www.gwobraudewisant.org.uk, a’r dyddiad cau yw Hydref 28.
Dewch i ni sicrhau bod pobl Caerdydd yn cael eu hadnabod!
sylw ar yr adroddiad yma