Datganiad Cyngor Caerdydd
Cynhaliwyd perfformiadau blynyddol Gwasanaeth Cerdd Sir Caerdydd a Bro Morgannwg ar gyfer Gwobr Goffa Richard Fice y mis hwn.
Mae’r wobr, a sefydlwyd drwy gyfraniadau ariannol gan y cyhoedd, er cof am Richard Fice, fu’n chwarae yn Ensembles y Gwasanaeth Cerdd yn blentyn, a ddaeth yn aelod o fand y Môr-filwyr Brenhinol, ac a laddwyd yn nhrychineb bom yr IRA yn Deal ym mis Medi 1989. Sefydlwyd y wobr i helpu offerynwyr pres ifanc i gyflawni eu potensial, ac mae’r wobr ar gael i aelodau ensembles Gwasanaeth Cerdd Sir Caerdydd a Bro Morgannwg hyd at 19 oed.
Enillydd y wobr eleni oedd y trympedwr Rhodri Skyrme, disgybl 14 oed yn Ysgol Gyfun Glantaf sydd am ddefnyddio’r wobr o £2,000 i brynu trymped picolo a thrymped Eb i ddatblygu ei alluoedd cerddorfaol.
Mae Rhodri’n canu’r trymped ers chwe blynedd ac mae ef wedi llwyddo yn ei arholiad Gradd 7 gyda rhagoriaeth. Bu’n aelod o nifer o Ensembles y Gwasanaeth Cerdd, ac ar hyn o bryd mae e’n chwarae gyda Cherddorfa’r Ysgolion Uwchradd, y Band Offerynnau Chwyth Ieuenctid a’r Band Pres Symffonig. Mae Rhodri wedi ennill lle gyda Band Pres Ieuenctid Cenedlaethol Cymru hefyd.
Roedd Rhodri wedi paratoi yn dda ar gyfer y perfformiad ac fe berfformiodd yn wych mewn cystadleuaeth gref iawn eleni eto. Mae ganddo ddyfodol disglair iawn ym myd cerdd.
sylw ar yr adroddiad yma