Gan Eirian Jones…
“We like to sing, we like to dance. Grab your passport, we’re off to France.”
Dyma’r floedd sydd wedi cael ei glywed ar strydoedd Caerdydd ers i dîm Cymru wireddu gobeithion pob cefnogwr, sef cyrraedd twrnament rhyngwladol am y tro cyntaf ers 1958. Yn wir, mae’r degawdau diwethaf wedi bod yn dorcalonnus i gefnogwyr gwlad y gân, wrth i Gymru ddod yn agos i gyrraedd Cwpan y Byd 1994, yn ogystal a Ewro 2004 yn fwy diweddar.
Mae’n gwlad fach ni wedi cael ein siâr o sêr y byd pêl droed megis Ryan Giggs, Ian Rush, John Toshack, (wnawn ni ddim sôn am Robbie Savage), ond does dim un o’r rhain wedi cyflawni’r un gamp a Gareth y Galactico. Serch hyn, heb Gareth Bale ag Aaron Ramsey, mae’r gemau cyfeillgar yn erbyn Gogledd Iwerddon a’r Ŵcrain yn ddiffrwyth, felly pa obaith sydd gan y cochion mewn gwirionedd yn Ffrainc, gyda’r byd a’r betws yn edrych?
Y Daith i’r Rownd Derfynnol
O edrych ar y grŵpiau, mae’n amlwg bod gan Gymru siawns dda o gyrraedd rownd nesa’r gystadleuaeth, gyda’r gêm yn erbyn Lloegr yn Lens ar y 16eg o Fehefin yn tynnu dŵr i’r dannedd. Os bydd Bale a Ramsay yn iach, credaf y bydd Cymru yn gallu trechu Rwsia a Slofacia mewn gemau go agos. Mae Cymru yn uwch o ran safle y gwledydd yn ôl Fifa, gyda Rwsia yn y 23ain safle, a Slofacia yn 26ain. Ond, yn anffodus, credaf bydd y gêm yn mynd yn drech na’r Cymry yn erbyn yr hen elyn, gan olygu y bydd Cymru yn gorffen yn ail yn y grŵp. Wedi’r cyfan y tro diwethaf i Gymru guro’r Saeson mewn gêm gystadleuol oedd yn 1984. Serch hyn, bydd yr ail safle yn golygu y bydd Cymru yn symud ymlaen i rownd yr un ar bymtheg olaf.
Os yw’r ddamcaniaeth hon yn gywir, bydd y Cymry yn wynebu Gwlad yr Iâ yn Nice ar y 27ain o Fehefin. Bydd y gêm yma yn gweld rhai o gyd chwaraewyr Abertawe (Ashley Williams a Gylfi Sigurdsson) a Chaerdydd (Tom Lawrence ac Aron Gunnarsson) yn wynebu ei gilydd. Ond, er bod gan Strákarnir Okkar ganol cae talentog yn ogystal ag amddiffynwyr cadarn, bydd cryfder carfan Cymru yn ogystal a sgiliau’r blaenwyr megis Gareth Bale ag Hal Robson Kanu yn ormod i Wlad yr Iâ.
Rhaid cydnabod y cynnydd aruthrol sydd wedi bod yn safon pêl droed yr ynys hon, gyda phoblogaeth o mond 300,000, yn enwedig wrth feddwl am ddiffyg adnoddau’r wlad o achos y tywydd garw, felly rhaid eu llongyfarch ar gyrraedd y twrnament.
Yn y gemau go gyn derfynol, bydd Cymru yn debygol o wynebu Ffrainc, y tîm cartref. Bydd y gêm yma yn dasg hynod o anodd i dîm Chris Coleman, yn enwedig wrth i Les Bleus geisio blesio’u cefnogwyr wedi’r perfformiadau siomedig yn y tri twrnament rhyngwladol diwethaf. Ond gyda’r Ffrancwyr yn meddu asgwrn cefn o chwaraewyr ifanc a thalentog megis Hugo Lloris, Raphael Varane, Paul Pogba a Antoine Griezmann, yn anffodus rwy’n darogan y bydd y gem yma yn un her yn ormod i’r cochion gyda nifer o gyn-chwaraewyr yn rhagfynegi bydd Ffrainc yn ennill y gystadleuaeth yn gyfan gwbl am y tro cyntaf ers 2000.
Crynodeb
Dyn dewr iawn bydd yn rhoi arian ar Gymru i ennill y twrnament yn gyfan gwbl, ond credaf y bydd y cochion yn gadael Ffrainc gyda balchder yn eu calonnau os byddant yn llwyddo i gyrraedd yr un ar bymtheg olaf. Bydd cenhedlaethau o gefnogwyr Cymru yn cefnogi eu tîm a fydd yn mentro i ddyfroedd dyfnion yr haf yma am y tro cyntaf ers 1958, ar gyfer brwydr yn erbyn goreuon Ewrop.
sylw ar yr adroddiad yma