Dim ond dau ddiwrnod i fynd cyn Tafwyl, heno y gwirfoddolwyr oedd yn cael cip olwg ar y safle cyn ddydd Sadwrn.
Mae staff Menter wedi symyd lawr i’r Castell prynhawn ma a phawb yn llawn cyffro ( ac yn croesi bysedd am ddiwrnod braf tebyg i heddiw!)
A heno daeth ein gwirfoddolwyr ynghyd yn y Castell ar gyfer sesiwn briffio, cael crwydro’r Castell ac ymgarwyddo â threfniadau eu dyletswyddau Ddydd Sadwrn.
Daeth y gwirfoddolwyr, yn hen ac ifanc, o bell ac agos, a daeth un, Camila, mor yr holl ffordd o Batagonia!!
Hebddyn nhw, fydde ni ddim yn gallu cynnal yr Wyl fel mae hi nawr, felly diolch o galon iddynt, a chofiwch wenu a ddweud helo wrth ein gwirfoddolwyr hapus yn eu siacedi glas Ddydd Sadwrn!!
#2ddiwrnodifynd
sylw ar yr adroddiad yma