Bydd Gwasanaeth Coffa Cenedlaethol Cymru, a gynhelir ar y cyd gan Gyngor Dinas Caerdydd, Llywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth â’r Lleng Brydeinig Frenhinol, yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd ddydd Sul 13 Tachwedd.
Bydd didoliadau o’r Llynges Frenhinol, y Fyddin, y Llu Awyr Brenhinol a’r Llynges Fasnachol a Fflyd o Gychod Pysgota yn gorymdeithio o Rodfa’r Brenin Edward VII trwy Rodfa’r Amgueddfa i Gofeb Ryfel Genedlaethol Cymru yng Ngerddi Alexandra, Parc Cathays, Caerdydd lle byddant yn cyrraedd erbyn 10:40am.
Bydd colofnau o gyn-filwyr, a drefnir gan y Lleng Brydeinig Frenhinol, a cholofnau o sifiliaid sy’n cynrychioli sefydliadau sy’n gysylltiedig â gwrthdaro o’r gorffennol a’r presennol yn ymuno â’r didoliadau hynny.
Caiff detholiad o gerddoriaeth ei chwarae gan Fand Catrodol a Chorfflu Drymiau’r Cymry Brenhinol a bydd Band Byddin yr Iachawdwriaeth Treganna yn arwain cyn-filwyr i’r Cofadail. Bydd Côr Meibion Parc yr Arfau Caerdydd yn arwain yr emynau yn ystod y gwasanaeth.
Am 10:59am bydd biwglwr o Fand Catrodol a Chorfflu Drymiau’r Cymry Brenhinol yn seinio’r ‘Caniad Olaf’ a ddilynir gan wn Catrawd 104 y Magnelwyr Brenhinol, Casnewydd am 11am, a fydd yn tanio i nodi dechrau dwy funud o dawelwch.
Bydd y gwn yn cael ei danio eto ar ddiwedd y ddwy funud a’r Biwglwr yn chwarae ‘Reveille’.
Bydd Arglwydd Raglaw Ei Mawrhydi De Morgannwg, Morfudd Meredith, yn gosod torch wrth y Gofeb, ar ran Ei Mawrhydi’r Frenhines ac ar ddiwedd y gwasanaeth bydd yr holl gyfranogwyr a’r gwesteion yn ymgasglu i weld yr Orymdaith a’r Saliwt o flaen Neuadd y Ddinas.
Meddai Reolwr Ardal Cymru y Lleng Frenhinol Brydeinig, Ant Metcalfe:
“Eleni yw canmlwyddiant Brwydr y Somme, a orffennodd ar 18 Tachwedd 1916. Cafodd y frwydr effaith ddofn ar bob cymuned yng Nghymru, yn arbennig Brwydr Coedwig Mametz, lle cafodd tua 4,000 o ddynion o’r 38ain Adran (Cymru) eu lladd neu anafu.
“Fel y Ceidwaid Coffa Cenedlaethol, bydd y Lleng Frenhinol Brydeinig yn sicrhau y bydd y rheini a wnaeth yr aberth eithaf yn aros yn y cof am byth.”
sylw ar yr adroddiad yma