Gyda gwyliau banc mis Mai ar y gorwel bydd nifer bobl yn mwynhau barbeciws cyntaf yr haf, a bydd y garddwyr yn ein plith yn cydio yn ein menig garddio.
Gall hwyl yr haf greu llawer o wastraff ychwanegol felly mae’r Cyngor yn annog pawb i sicrhau eu bod yn gwybod beth i’w ailgylchu a phryd.
Yn ystod gwyliau banc mis Mai bydd y dyddiadau casglu gwastraff ac ailgylchu yn newid. Ni fydd unrhyw gasgliadau ar ddyddiau Llun gwyliau banc, a chaiff yr holl gasgliadau yn ystod yr wythnos yn dilyn gŵyl y banc eu symud yn ôl un diwrnod.
I ddelio â’r gwastraff gardd ychwanegol a gynhyrchir yn ystod y gwanwyn a’r haf, mae’r casgliadau hyn yn cael eu cynnal bob pythefnos ym mhob ardal o’r ddinas.
Os ydych chi wedi bod yn clirio’r tŷ cofiwch fanteisio ar wasanaeth casglu gwastraff swmpus y Cyngor ar gyfer unrhyw eitemau mawr. Codir ffi ar gyfer y gwasanaeth, sy’n sicrhau bod eitemau fel matresi, oergelloedd a pheiriannau golchi diangen yn cael eu gwaredu’n briodol.
Mae rhagor o wybodaeth am gasgliadau ailgylchu, gwastraff swmpus a dyddiadau casglu ar wefan y Cyngor.
Amserlen Casgliadau Gŵyl y Banc:
Diwrnod casglu arferol | Diwrnod casglu newydd |
Gŵyl Banc Calan Mai | |
Dydd Llun 4 Mai | Dydd Mawrth 5 Mai |
Dydd Mawrth 5 Mai | Dydd Mercher 6 Mai |
Dydd Mercher 6 Mai | Dydd Iau 7 Mai |
Dydd Iau 7 Mai | Dydd Gwener 8 Mai |
Dydd Gwener 8 Mai | Dydd Sadwrn 9 Mai |
Gŵyl Banc y Gwanwyn | |
Dydd Llun 25 Mai | Dydd Mawrth 26 Mai |
Dydd Mawrth 26 Mai | Dydd Mercher 27 Mai |
Dydd Mercher 27 Mai | Dydd Iau 28 Mai |
Dydd Iau 28 Mai | Dydd Gwener 29 Mai |
Dydd Gwener 29 Mai | Dydd Sadwrn 30 Mai |
sylw ar yr adroddiad yma