Mae’r gwaith o adnewyddu un o adeiladau hanesyddol y brifddinas wedi dechrau. Bydd Cwrt Insole yn Llandâf yn cau am flwyddyn wrth i’r gwaith o adfer y plasdy Fictorianaidd fynd yn ei flaen.
Mae dau o wirfoddolwyr a chefnogwyr Cwrt Insole, Dafydd a Meri Griffiths yn rhoi tipyn o hanes a chefndir yr adeilad eiconig, sydd bellach yn adnodd cymdeithasol pwysig ynghanol pentref Llandâf.
“Ar y 4ydd o Ragfyr, 2014, daeth y diwrnod y breuddwydiodd llawer amdano pan gyhoeddwyd mewn seremoni ‘Bore Agored’ bod y gwaith o adnewyddu Cwrt Insole ar fin cychwyn.
Arweiniodd blynyddoedd o ymgyrchu gan breswylwyr selog at y cynllun enfawr hwn o adnewyddu’r Cwrt. Bydd y prosiect terfynol yn adnodd nid yn unig i Landaf ond hefyd i Dde Cymru a thrwy’r wlad. Bydd cyfuno hanes a chymuned ar y fath raddfa yn fodel i lawer o rai eraill ei dilyn.
Tua 1829 daeth George Insole o Gaerwrangon – i Crockherbtown (cornel Plas y Parc ac Heol y Frenhines). Sefydlodd ffortiwn y teulu fel perchennog cwmni glo a llongau a daeth ei fab James yn bartner pan ddaeth i’w oed yn 1842/3
Symudodd James i Landâf yn yr 1850au ar ôl i George farw – adeiladodd y Cwrt gwreiddiol yn1856/57 a magu ei deulu yma. Wyth mlynedd ar ôl marwolaeth ei wraig gyntaf, Mary Ann, fe briododd Marian Carey (Eagle gynt),chwaer weddw ei ferch-yng-nghyfraith.
Daeth Marian yn weddw gyfoethog ar farwolaeth James yn 1901, gyda’r hawl i fyw yn y Cwrt am ei bywyd neu tan iddi ail-briodi yn 1905.
Roedd y teulu Insole ymhlith y diwydianwyr Fictoraidd hynny a newidiodd Gaerdydd o fod yn dref gyffredin ar y Tâf i fod y porthladd allforio glo mwyaf yn y byd; gan baratoi’r ffordd i’w rôl fodern fel y brifddinas ieuengaf a chyflymaf ei thwf yn Ewrop. Mae’r tŷ godo’n nhw wedi cael ei adnabod fel “Ely Court”, “The Court, Llandaff’ ac (yn anghywir am gyfnod) “Llandaff Court”.
Ym 1932 pwrcaswyd y Cwrt a’i ystâd 54-acer gan “The Aldermen and Citizens of Cardiff” i wneud lle i ffordd gyflym amgylchynol. Yna datblygwyd y rhan helaethaf o’r ystâd ar gyfer tai. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd gan y Cwrt rôl leol bwysig fel gorsaf ar gyfer Rhagofalon Cyrch Awyr, gwasanaeth Tân, a Chorfflu’r Gwylwyr Brenhinol. Wedi’r rhyfel daeth yn ganolfan i’r gymuned a gweithgareddau addysgol, gan gynnwys llyfrgell.
Arweiniodd camau i wneud i ffwrdd â’r tŷ yn 1988 at brotest gyhoeddus a sefydlu Cyfeillion Cwrt Insole. Yn 1992 fe’i cofrestrwyd yn adeilad Radd II* a’i ddynodi’n ardal cadwraeth. Roedd na fygythiad i gau’r lle ar sail diogelwch yn 2006 ond yn dilyn ymgyrchu lleol pellach ail-ddodrefnwyd y llawr gwaelod a chafwyd ail-agoriad o dan reolaeth gwell ym 2008.
Yna fe ddaeth hi i’r amlwg pe gellid trosglwyddo’r ased i reolaeth gymunedol y byddai’n bosib cael arian cyhoeddus i adnewyddu’r tŷ. O ganlyniad ffurfiwyd Ymddiriedolaeth Cwrt Insole yn 2011. Mae eu gwaith mewn partneriaeth gyda Chyngor Caerdydd wedi codi cyllid o loteri sylweddol i sicrhau dyfodol y Cwrt fel canolfan gymunedol ac hefyd fel elfen werthfawr o dreftadaeth Fictoraidd ac Edwardaidd Caerdydd.
Mae angen codi llawer o arian i ddatblygu’r safle – fydd y gwaith yn costio rhwng £4m a £5m ac mae cyfle i bobl ddod yn gyfamodwyr a gwirfoddoli mewn sawl ffordd.
Mae’r Garddwyr Cymunedol a Chymdeithas Preswylwyr Ystâd Insole wedi cyfrannu rhoddion o £200 a £250. Mae Cymdeithas Llandaf wedi hyrwyddo cyngerdd gododd bron i £500 trwy rodd cymorth.
Yng Ngorffennaf 2014 trefnwyd taith gerdded sialens ‘GLO-AUR’ er cof am y 114 o lowyr fu farw yng nglofa James Insole yn Cymmer (Porth) Gorffennaf 15fed 1856 – y drychineb ddifrifol gyntaf yn y lofa . Cerddodd tua pum deg pump o bobl – yn bennaf disgyblion blwyddyn 9 o Ysgol Uwchradd Cantonian ac Ysgol Gyfun Cymer Rhondda yr 17 milltir o’r gofeb ym mhentre Cymer i lannerch o aceri gysegrwyd yn ymyl Cloc y Tŵr yng Nghwrt Insole. Cludai pob cerddwr ddarn o lo ar y daith ac ar ôl cyrraedd, gadawyd y darnau glo yn y llannerch goffa a derbyniodd y cerddwyr docyn aur yn cydnabod eu hymdrech o godi £3,000 .
Codir arian drwy Sgyrsiau allanol, Cyngherddau, Picnics Suliau’r Haf, Gwibdeithiau, Crefftau llaw, Cynnig sgiliau fel pnawn o smwddio, gwersi offeryn cerdd, addysgu iaith dramor, pnawn o arddio, glanhau ceir, cynnig lifft, coginio cacen ayb. Mae DVD dwyieithiog ar gael yn cynnig brasolwg i’r arfer gymdeithasol o de pnawn mewn tŷ nodweddiadol o deulu Fictoraidd cyfoethog. Ffilmiwyd yn y Cwrt gydag aelodau Ffrindiau Cwrt Insole. £8.
Mabwysiadwyd targed o £12,000 i’r rhaglen codi arian, sef yr amcanbris o adfer tŵr y cloc ar dô’r bloc stablau Fictoraidd – fydd yn dod yn hyb gweithgareddau’r gymuned pan fydd yr adferiad wedi ei gwblhau.
Mae bwriad i drefnu ‘CRÔL-CAFFI’ LLANDAF (Gwanwyn 2015). Arwyddwch am frecwast, cinio a swper mewn tri bwyty gwahanol yn Llandaf. Mae gan Cwrt Insole Gymdeithas 50+ sy’n trefnu nifer o weithgareddau, yn bennaf ar fore dydd Mercher. ”
Am fwy o fanylion ewch i’r wefan fan hyn.
sylw ar yr adroddiad yma