gan Lois Eckley, Achub y Plant
Mi fydd hi’n dair blynedd ers dechrau’r argyfwng yn Syria ymhen y mis.
Mae elusen Achub y Plant ac Oxfam Cymru yn dod ynghyd i dynnu sylw Cymru i gofio am y rhai sydd yn dioddef yn bobl ac yn blant.
Mae dros 100,000 o fywydau wedi eu colli yn ystod y tair blynedd ac mae 11,400 o’r rhain yn blant. Mae 9.3 miliwn o bobl angen ein cymorth, nifer yn llwgu ac angen lloches a gofal ar frys.
Mae gwahoddiad i chi ymuno gyda ni mewn digwyddiad yng ngerddi heddwch y Deml Heddwch yng Nghaerdydd nos Wener y 14eg o Fawrth. Mi fyddwn ni’n codi cannwyll dros Syria rhwng 6 a 7 yr hwyr mewn gardd yng nghefn y Deml Heddwch ac yn clywed Côr Ysgol Gymraeg Cwmbrân yn canu i nodi’r digwyddiad.
Dewch ato ni a chynnau cannwyll dros Syria.
sylw ar yr adroddiad yma