Neithiwr fe gafwyd noson arbennig gan Meic Stevens a Gareth Bonello yn nhafarn y Windsor, Penarth fel rhan o Gigs Bach y Fro. Roedd Gwenda Richards yno:
Roedd yr ystafell gefn yn llawn i glywed Meic, un o eiconau roc mwyaf Cymru yn perfformio ei ganeuon enwocaf. Gan ddechrau gyda Cân Walter fe symudodd yn gyflym drwy’r repertoire- Gwin a mwg a merched drwg, Ysbryd Solfa, Tryweryn a Erwan.
Trefnwyd y gig yma gan Menter Iaith Bro Morgannwg a diddorol oedd clywed Meic yn diolch am y cyfle i berfformio i gynulleidfa Gymraeg oherwydd yn ei brofiad e, yn anaml byddai gig o’r fath yn awr yn cael ei gynnal yn y Gorllewin. “Cei di ddim cyngerdd fel hyn yn y Gorllewin a diolch i bawb am ddod ma heno – ma ni’n cal hwyl ma yn dathlu ein Cymreictod, achos ma Cymreictod yn y gorllewin ar y ffordd mas.” Dwi licio’r ffordd ma Meic yn galw pawb yn ‘ti’… hyd yn oed cynulleidfa cyfan!
Wrth gyflwyno ‘Gwely Gwag’ cyfeiriodd at ei salwch a bod ei lais yn gwella ar ôl tair blynedd o driniaeth. Roedd yn swnio’n grêt i fi ac yn amrywio o baled fel Bobby Sands i blues y Delyn Aur. Mae’r arthritis wedi dal ei afael ar ei law chwith mynte fe, ond mae’n dal yn gallu trin y gîtar fel meistr er iddo cyfadde methu ambell i gord barre yng Nghan Walter.
Ymlaen a ni a dechreodd canu ‘Daeth neb yn ôl’. Ond stopiodd ar ôl dwy bennill gan wfftio’r gan am fod yn rhy hir! Ma’r hiwmor ‘na o hyd. Ymunodd pawb gyda’r ‘greatest hits’ fel Douarnanez, y Brawd Houdini ac i gloi, Ar lan y môr.
Newidiodd cywair ail hanner y noson gyda Gareth Bonello yn canu caneuon o’r traddodiad morwrol fel Bachgen Mam a Hiraeth am Feirion ac yna sawl cân oddi ar ei albwm The Gentle Good, lle mae dylanwad offerynnau Tseiniaidd yn gryf. Mae’n llwyddo i gyfleu synau y rhain ar y gitar yn arbennig o gelfydd.
Do, we ni di cal hwyl na — ac edrychaf ymlaen i’r Gig Bach y Fro nesa gyda Steve Eaves fis Mehefin.
sylw ar yr adroddiad yma