Y FFug – Dyfodol disglair i pync Cymraeg
Adolygiad Ceri Jenkins (17 oed, Ysgol Plasmawr)
Yn ystod wythnos Tafwyl, fe es i lawr i Clwb Ifor Bach am noson aruthrol o rantio, gweiddi a chofio deud diolch am yr iaith Cymraeg.
Unwaith eto, mae Tafwyl wedi paratoi noson anhygoel o gerddoriaeth Cymraeg ffres yn yr ail Gig Gwefus yng Nghaerdydd, yr ail o nifer sydd i’w ddod!
Wrth gyrraedd, yn syth clywais gitar brwdfrydyg yn blastio trwy’r drysiau mynediad. Wrth gwrs, roedd rhaid mynd mewn i weld pwy oedd yn creu’r aflonnydd arbennig yma, ai’r Manics ?.. Ond na nid y Manics neu’r Ramones ond band cwbl Cymraeg o Sir Benfro—Y Ffug. Yn cymryd Cymru dan eu hadennydd ac yn dysgu ni beth yw gerddoriaeth post pync go iawn.
Nid yw bois Y Ffug, yn ffug mewn unrhyw ffordd! Bois arferol sy’n caru beth mae nhw’n gwneud sef creu cerddoriaeth sydd a neges cryf. Mae Cymru yn gryf.
Dywedodd Iolo, canwr y band bod Y Ffug yn “band post punk a psyche” ac mae fe’n iawn ! Fy hoff ganeuon yw ‘Cofiwch Tryweryn’, a “nos Sadwrn” , ac mae llawer yn cytuno. “Mae Nos Sadwrn yn amazing! Mae’r bass yn fantastig yn gadw’r rhythm ac mae’r geirie’ mor wir!” – Alis, 16 .“Band hollol controvesrsial– dwi’n caru nhw” – Rory, 17
Gan feddwl bydde’r bechgyn yn rhy cwl am gyfweliad anffurfiol, mae’n rhaid i fi ddweud roeddwn yn gwbl anghywir. Nid ydw i erioed ‘di cwrdd a band mor ddoniol a chyfforddus ac yn barod actio’r ffwl!
Fel wnaeth Billie, y chwaraewr gitar dweud , “Da ni gyd yn frodyr… ond Iolo yw fy nghariad” gan chwerthin. Maent yn fand agos ac mae hwn yn amlwg pan maent yn perfformio. Am fand o fechgyn yn eu harddegau, nhw yw’r band mwya’ punk dwi ‘di gweld ers achau.
Mae ganddynt “punk end to the set” fel mae Iolo, y canwr artistig yn pregethu, ac mae ganddynt hyd yn oed y “naid” punk fel oedd gan The Clash nôl yn y 70au!
Mae swn Y Ffug yn ffres a chyffrous ac mae ganddynt ddyfodol mawr pyncaidd o’u blaenau.
Dilynnwch nhw ar Facebook a Trydar er mwyn gweld pryd a ble mae’r band yn perfformio nesa’!
https://www.facebook.com/YFfug
sylw ar yr adroddiad yma