Gig gwerin fydd y Gig Bach y Fro nesaf gaiff ei gynal yn y Bontfaen. Bydd Chris Jones a Band Nantgarw (grŵp o offerynnwyr gwerin bywiog a thalentog) yn perfformio yn y Duke of Wellington, Y Bontfaen ar Fawrth 27ain gyda’r drysau’n agor am 8pm.
Mae modd archebu tocynnau o flaen llaw (£8 yr un) trwy gysylltu â ffion@menterbromorgannwg.org neu 029 20689888.
Cynhaliwyd digwyddiad cyntaf Gigs Bach y Fro ar gyfer 2015 ynghanol mis Chwefror gyda noson gomedi yn y Barri. Daniel Glyn oedd y llywio’r noson a chafwyd perfformiadau gwych gan Noel James a Steffan Alun.
Caiff y prosiect ei drefnu mewn partneriaeth rhwng Menter Bro Morgannwg, Clwb Ifor Bach a Cwpwrdd Nansi dan nawdd Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru.
sylw ar yr adroddiad yma