Gêm o ddwy hanner: Caerdydd 1 Newcastle 2

6 Hydref 2013

Adroddiad Gwenda Richards

Mae hi’n ystrydeb – gêm o ddwy hanner – ond dyna sut oedd hi yn Stadiwm Caerdydd ddydd Sadwrn yn erbyn Newcastle. Er i Peter Odemwingie sgorio yn yr ail hanner, roedd yn rhy hwyr wrth i’r Piod gipio’r triphwynt ar y penwythnos.

Roedd Caerdydd yn cysgu yn yr hanner cyntaf, heb ddangos fawr o ddychymyg nac wmff. Gwnaeth Newcastle reoli’r gêm a doedd hi ddim fawr o syndod pan naeth Loic Remy sgorio gol cynta’r Piod ar ôl hanner awr.

Remy yn gwibio ar ei ffordd i sgorio

Remy yn gwibio ar ei ffordd i sgorio

Fe dderbyniodd y bel ar yr ystlys chwith a gwibio’i ffordd drwy amddiffynfa Caerdydd cyn daro’r bel yn dwt i’r gôl. Roedd Papiss Cisse a Moussa Sissoko yn bygwth dro ar ôl tro, a’r gôl geidwad David Marshall yn brysur unwaith eto yn cadw Caerdydd yn y gêm, yn arbed yn wych, gan bwnio gic galed Sissoko dros y bar.

Remy yn sgorio'r gol gyntaf

Cisse yn bygwth

Ond gyda’r fath bwysau roedd yn anorfod y bydde Newcastle yn sgorio eto wrth i amddiffyn Caerdydd wegian. Wyth munud wedi’r gôl gyntaf fe darodd Cisse’n galed tua’r gôl. Pwniodd Marshall y bel allan ond dim ond at draed Remy ac fe dderbyniodd y bel a sgorio o du allan i’r cwrt cosbi. Fe allai Newcastle fod ar y blaen o dair gol petai cic gosb Yohan Cabaye ddim wedi taro’r postyn.

Dwi ddim yn gwbod beth ddigwyddodd yn y stafell wisgo, naill ai cerydd gan Malky Mackay neu synau peraidd Côr Meibion Treorci yn tanio rhywbeth yn eu boliau – ond fe ddaeth yr Adar Gleision allan fel tîm newydd yn yr ail hanner. Y newid mwyaf oedd yng nghanol y cae gyda Jordan Mutch yn eilyddio Kim Bo. Roedd yn llawn bywyd ac yn gweithio’n dda gyda Odemwingie. 13 munud i fewn i’r ail hanner fe basiodd Mutch yn sgwâr i’r gwr o Nigeria ac darodd y bêl heibio Tim Krul gan sgorio ei gôl gyntaf dros ei dim newydd.

Peter Odemwingie y tanio i sgorio'i gol gyntaf i'r Adar Gleision

Peter Odemwingie y tanio i sgorio’i gôl gyntaf i’r Adar Gleision

Fe wnaeth Mutch rediad gwych o’i hanner ei hunan i gwrt cosbi Newcastle ond yn lle  trio sgorio’i hunan fe aeth y bas yn ofer. Fe fyddai hwnna di bod yn gôl arbennig ac er i Gaerdydd wthio a gwthio yn ystod munudau ola’r gêm fe ddaliodd Newcastle ei gafael ar y gêm. Petai Caerdydd wedi chwarae gyda’r un arddeliad yn ystod yr hanner cyntaf fe allai’r sgôr fod yn wahanol.

Gêm gartref nesa’r Adar Gleision yw hwnnw yn erbyn yr hen elyn Abertawe mis nesaf. Bydd hwnna’n tipyn o gêm!

 

 

 

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma