Galw ar Gymry Caerdydd i ddangos arweiniad i’r genedl

7 Mawrth 2014

Gyda 37,000 o Gymry Gymraeg yng Nghaerdydd – mwy nac yng Ngheredigion – mae digon o drwch poblogaeth i ddangos y ffordd o ran byw yn y Gymraeg. Bu Sara Moseley yn trafod dyfodol yr iaith yn y brifddinas gyda’r Cynghorydd Huw Thomas yn ystod cynhadledd ‘Caerdydd Dwyieithog’. 

Fel cymaint o Gymry Cymraeg Caerdydd, un o’r Gorllewin yw’r Cynghorydd Huw Thomas. Yn fab i athrawon o Aberystwyth (un ohonynyn nhw – y diweddar Mrs Margaret Thomas – yn athrawes ardderchog arnaf i yn yr Ysgol Gymraeg ac yn gryn giamstar ar arwain côr) fe ddaeth i’r brifddinas i chwilio am waith ac ymuno a ffrindiau.

Cwta dwy flynedd wedi cael ei ethol fel cynghorydd yn ardal Splot a Thremorfa, ymunodd Huw a’r Cabinet fel aelod dros Ddiwylliant, Hamdden a Chwaraeon – gan gynnwys y Gymareg. Mae bellach wedi symud i ofalu am Iechyd a Gofal Cymdeithasol on wedi cadw cyfrifoldeb am yr iaith.

Hyn i gyd ar adeg pan mae’r esgid yn gwasu yn dyn, gyda’r Cyngor eisioes wedi datgan y bydd angen torri £50m yn 2014/15.

Siaradais a Huw yn ystod Cynhadledd Caerdydd Ddwyieithog yn Neuadd y Ddinas ar Iau’r 6 Mawrth. Nod y gynhadledd oedd ymgasglu ystod eang o unigolion a chyrff sydd yn allweddol i fywyd Cymraeg y brifddinas er mwyn cynhyrchu cynllun gweithredu.

SM: Beth oedd ei farn ar effaith y cwtogi ar gefnogaeth y Cyngor i’r iaith? Ar y cyfan, mae’n credu fod y Cyngor  wedi llwyddo i amddiffyn cefnogaeth i’r Gymraeg rhag y gwaethaf, ac eithrio torri grant Tafwyl.

HT: “Fues i’n rhan o’r trafodaethau i gael Llywodraeth Cymru i gamu i’r adwy ac mae Cyngor Caerydd yn parhau i gefnogi Tafwyl ‘in kind’, fel defnydd y castell.

“Ond beth sydd yn rhagorol am engraifft Tafwyl yw, er bod hi wedi bod yn sefyllfa anodd, chwarae teg i Menter Caerdydd am bartneriaethu. Trwy nawdd newydd Prifysgol Caerdydd mae nhw wedi sicrhau dyfodol ariannol i’r wyl.”

SM: A beth am y dyfodol, pan fydd pethau yn tynhau ymhellach?

HT: “Beth mae heddi’ amdano yw ymestyn allan i’r gymuned Gymraeg sydd a’r ewyllys da, yr expertise a’r bobl i weithio gyda ni fel Cyngor, achos mae’r Cyngor yn mynd i gael ei drawsnewid dros y blynyddoedd nesaf. Sda ni ddim arian i fforddio gwneud yr hyn da ni yn ei wneud yn awr. Beth sydd yn bwysig i fi yw ein bod yn mynd i allu amddiffyn yr hyn sydd yn bwysig i ni – a dwi’n cyfri’r Gymraeg yn hanfodol i hynny. Ei hamddiffyn hi trwy wneud pethau yn wahannol a defnyddio sgiliau ac expertise o’r tu allan lle mae yn briodol ac yn cael ei wneud yn well na ni neu yn rhatach na ni!”

SM: Mae Huw yn credu fod Pobl Caerdydd yn engraifft berffaith o sut mae pethau yn gallu digwydd yn organig gyda rhywfaint o genfnogaeth (yn yr achos yma gan Brifysgol Caerdydd a Menter Caerdydd). Ei obaith yw y bydd y Cyngor yn gallu cyd lynnu gweithgareddau bywyd gyfrwng Gymraeg mewn rôl arweiniol.

HT: “Mae cymaint o bethau dwi yn ymwybodol sydd yn digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg yn y ddinas.  Y tric yw agor y digwyddiadau yma lan i’ r boblogaeth ehangaf bosibl, yn enwedig y rheini sydd falle ddim o fewn y ‘clwb Cymraeg’; sydd yn ddi Gymraeg ond eu plant yn mynd i ysgolion Cymraeg neu falle sydd yn dysgu fel bod nhw gyda’r hyder i gymryd rhan. Os ydi’r Cyngor yn gallu cael nhw dros y trothwy yna mae hynny yn rôl bwysig y gallwn ni ei chwarae.”

SM: Gyda’r fath newidiadau, gofynnais i Huw beth oedd e’n credu oedd y brif gyfle a’r brif her i’r Gymraeg yng Nghaerdydd?

HT: “Mae’r shift demograffeg sydd yn digwydd yn her i gymuned Caerdydd ddangos arweiniad i Gymru gyfan ddangos bod hi yn gallu bod yn iaith gyfoes, fodern – yn iaith buses a diwylliant. Da ni yn dechrau cael y ‘critical mass’ sydd yn caniatau i hyn ddigwydd”

Yr her yw llwyddo i wneud hynny heb or-ddibyniaith ar ariannu, gan fod hynny yn brin, a mewn ffordd sydd ddim yn cael ei weld fel bygythiad i gymunedau ieithyddol eraill yn y ddinas fel ein bod yn tyfu law yn llaw i fod yn ddinas aml ethnig sydd yn ymfalichio yn ein dwy ieithrwydd neu ein tair hieithrwydd. Be ni yn sicr am osgoi yw troi un cymuned yn erbyn cymuned arall.”

SM:  Gofynais iddo a oedd yn gweld unrhyw arwydd o hyn.

HT: “Fan hyn fan draw,  dim ryw lawer, ond mae rhai pobl yn amheus o newid – pan mae nhw wedi tyfu lan mewn cymuned Saesneg mae nhw yn gweld e (defnydd o ieithoedd eraill) fel rhywbeth sydd ddim yn rhan o bersonoliaeth Caerdydd. Dwi’n credu fod hynny yn ddealladwy ac bod angen gweithio gyda’r bobl yna a’u cynnwys nhw yn ein gweithgareddau ni fel bod ni ddim yn cael ein gweld fel bygythiad i gymunedau ieithyddol eraill yn y ddinas. Hyd yn oed os ydych chi ddim yn siarad Cymraeg, mae yn rhan o’n identity ni fel gwlad. Ar y cyfan mae yna gefnogaeth i’r prosiect Cymraeg yng Nghaerdydd, a mae angen i ni fel Cyngor ddod a pobl gyda ni.”

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma