Matthew Rhys yn galw ar Ddiwydiant Cymru i Hyrwyddo Lleoliadau Ffilmio

17 Mehefin 2013

Gan Jacob Dafydd Ellis

2Q7A0192Seren y sgrin yn unig yw Matthew Rhys i lawer yng Nghymru ond i ymwelwyr Tafwyl eleni cafon nhw gyfle i weld y dyn mewn cig a gwaed. Roedd yr actor yn edrych yn gyffyrddus ac yn ymlaciedig ar faes yr wyl ac roedd yn ddigon parod i sgwrsio, llofnodi a chymryd llun â ymwelwyr yr wyl. Wedi’r cwbl, roedd yr wyl yn dawelach ac yn achosi llai o dwndra iddo,  i gymharu a’i fyd twyllodrus yn ‘The Americans’.
Ar ôl iddo orffen ym mhebyll yr wyl ac wedi iddo ymlwybro trwy’r dorf (a oedd yn ysu am lun a sgwrs) fe ddaeth i stondin Pobl Caerdydd. Yno, ar ôl cofrestru gyda’r fenter cefais gyfle ei holi ar ei atgofion yng Nghaerdydd a’r diwydiant ffilm.

Isod cewch gyfle i ddarllen detholiad o’r cyfweliad:

Jacob Ellis: Beth yw dy brofiadau di o fyw yng Nghaerdyd fel plentyn?

Matthew Rhys: Ma’ hwnna’n gwestiwn anodd achos sai’n gwybod lle i ddechrau, ma’ yna gymaint. O’r atgofion sydd yn dod syth yn ôl, un o’m hoff bethau odd beicio llwybr y Taf. Rhywbeth dwi dal yn neud hyd yma pan byddai nol ond ti’n gwybod o ran Eisteddfota, chwarae yng Nghastell Coch, gêm cynta’ Parc Ninian, gêm cynta’ rhyngwladol, Cymru ac Awstralia yn 1982. Sai’n gwybod lle i ddechrau a lle i orffen.

Jacob Ellis: Beth sydd yn tynnu ti nôl i Gymru?

Matthew Rhys: Ma’ yna sawl rheswm! Y rhesymau amlwg yw ffrindiau, wel teulu’n benna’ ond yn sicr o ran fel tras o bobl. Ma’r hiwmor Cymreig yn unigryw ac yn rhywbeth fi dal yn colli’n enfawr. Pan fi i ffwrdd am amser hir, y pethau bach fel y tirwedd, fi’n colli’n fawr iawn.

Jacob Ellis: Oes na rhywle ti’n mynd iddi’n benodol, pan ti adre?

Matthew Rhys: Yn sicr llwybr y Taf a Chastell Coch byddaf yn sicr yn mynd iddi yng Nghaerdydd. Mae Caerdydd fel dinas cerdded heb ei ail.

Matthew Rhys yn cofrestru i ddefnyddio Little JJacob Ellis: Beth yw’r prif newidiadau wyt ti wedi gweld wrth fynd a dod?

Matthew Rhys: Yr ail-newyddu! Fel ma’ St Mary’s Street wedi newid, y siopau a safon pob dim. Mae’r ffaith ein bod ni’n gallu cystadlu fel dinas celfyddyd yn brawf i’r ffaith bod yna ddigon i neud i gefnogi’r ffaith hynny.

Jacob Ellis: Ti’n meddwl y byddi di’n dod yn ôl i Gymru i fyw?

Matthew Rhys: Ydw, yn sicr. Dim ar y foment gan yn ffodus i fi, mae gwaith dal gyda fi yn yr Unol Daleithiau ond yn sicr dyna’r freuddwyd.

Jacob Ellis: Ti’n meddwl bod digon yn cael ei neud dros yr iaith Gymraeg?

Matthew Rhys: Mae’n gamp anodd. Ma’ na clichés… Mae gwyl fel hon (Tafwyl) yn helpu striwio  mewn ffordd, sydd yn peth da a’n bod ni ddim yn cael ein categoreiddio fel Eisteddfotwyr.

Jacob Ellis: Beth am ffilmio yn gyffredinol, wyt ti’n meddwl bod digon yn cael ei wneud yng Nghymru i dynnu’r diwydiant ffilmio yma i weithio ac i gynhyrchu?

Matthew Rhys: Gymaint â gallen nhw. Dwi’n credu nath Gordon Brown neud niwed enfawr i’r diwydiant ffilm. Mae wedi neud yn siwr nad oes gymaint yn cael ei ffimio yma nawr sydd yn broblem aruthrol. Beth falle sydd ddim yn cael ei hybu digon yng Nghymru yw’r ffaith beth allwn ni wneud mewn prin iawn o bellter yw cynnig unrhyw fath o dirwedd. Mae gyda ni’r mor, y mynyddoedd, y bryniau – Pob dim o fewn tair awr a hanner. Felly bydde fe’n dda o beth petai mwy o bobl yn gwybod am hynny.

Jacob Ellis: Faint o Gymraeg wyt ti’n clywed neu’n defnyddio yn yr Unol Daleithiau?

Matthew Rhys: Dwi’n gwrando ar Radio Cymru pan byddai yn yr Unol Daleithiau ond wrth gwrs siarad gyda’r teulu a ffrindiau.

Tybed pa hiraeth sydd yn perthyn i frodorion Cymru sydd bellach yn byw tu hwnt i’r ffin? Pa enwogion sydd yn dyheu am dagfeydd y dinas, am goed Parc Bute neu am rhuo’r stadiwm?

“Mae’n werth troi’n alltud ambell dro
a troi o Gymru fach ymhell,
Er mwyn cael dod i Gymru’n ôl
a medru caru Cymru’n well.”
(Telynegion y Môr)

Jacob Dafydd Ellis

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma