gan Rhys Lloyd, Tîm Comisiynu
Cafodd pawb ddaeth i’r Picnic Mawr ar Gaeau Llandaf y pnawn ‘ma amser ardderchog. Roedd nifer fawr o bobl a phlant o bob oed yn mwynhau’r gweithgareddau yn y tywydd braf ar y diwrnod olaf cyn dechrau’r tymor ysgol i lawer.
Trefnwyd y digwyddiad gan Cwlwm y Bobl Caeau Llandaf (Llandaff Fields People’s Hub), sef y grwp sydd wedi ei sefydlu i ymgyrchu i warchod y parc fell lle gwyrdd i bobl y ddinas ac i wrthwynebu cynlluniau i ddatblygu ar safle’r parc.
Mi fydd Pobl Caerdydd yn dilyn y stori hon dros yr wythnosau a misoedd i ddod. Byddwn yn croesawu unrhyw ymateb, sylwadau, barn; beth bynnag eich safbwynt – o blaid neu yn erbyn. Byddwn yn rhannu gyda chi y manylion am y cynlluniau diwygiedig cyn gynted ag y cawn eu cyhoeddi.
sylw ar yr adroddiad yma