Mae sioe gomedi arbennig yn dod i Theatr Richard Burton y Coleg Cerdd a Drama ar Fedi 17
Dyma’r sioe gomedi stand-up Gymraeg hir ddisgwyliedig gan un o gomediwyr mwyaf poblogaidd a llwyddiannus Prydain, Elis James.
Er mai Cymraeg yw ei iaith gyntaf, mae Elis wedi perfformio stand up trwy gyfrwng Saesneg er degawd ac fe’i enwebwyd fel Best Club Comic yng Ngwobrau Chortle 2014.
Fe’i gwelwyd ar Crims (BBC3), 8 Out Of 10 Cats (Channel 4), Dave’s One Night Stand (Dave), Live At The Comedy Store (Comedy Central), Russell Howard’s Good News (BBC3) a The Elis James and John Robbins Show (XFM).
Yn hwyrach eleni bydd yn perfformio gyda Josh Widdicombe a Jack Dee fel un o brif gymeriadau sitcom newydd y BBC, Josh.
Dyma’r tro cyntaf iddo ysgrifennu awr o gomedi yn Gymraeg a dyma gyfle prin i weld un o brif ddigrifwyr Prydain, o flaen cynulleidfa fyw, a hynny yn Gymraeg.
I archebu tocynnau ewch i wefan y Coleg Cerdd a Drama
sylw ar yr adroddiad yma