Ysgrifennwyd y stori hon gan y ddysgwraig Sian Kennedy, sydd yn byw yn Nhrelai, ym mhabell Pobl Caerdydd, Tafwyl.
Dechreuais i ddysgu Cymraeg pan ro’n i’n 11 oed. Astudiais i yn yr ysgol ac yn y coleg, ond pan gadawais i’r coleg, stopias i defnyddio Cymraeg. Dechreuais i weithio yn y swyddfa a doedd dim angen i fi i siarad Cymraeg. Nawr, dw i’n gweithio dros Cyngor Dinas Caerdydd gyda Gwasanaeth Llyfrgelloedd.
Yn ol yn 2012, dechreuais i ddysgu Cymraeg eto. Achos gwnes i llawer o Gymraeg yn yr ysgol, dewisais i ddechrau gyda lefel sylfaen. Tua’r un amser, roeddwn ni’n dechrau sesiwnau Amser Stori yn y llyfrgell ble dw i’n gweithio. Ro’n i’n gallu i ymarfer gan helpu gyda sesiwnau, roedd hi’n wych! Nawr dw i’n rhedeg y sesiwnau ar fy mhen fy hen. Dw i wedi gorffen sylfaen 2 nawr, a enillais i wobr Dysgwr i Flwyddyn, lefal sylfaen yng Nghaerdydd a’r fro. Dw i’n hapus iawn! Dw i’n edrych ymlaen nawr i ddechrau lefel canolradd yn mis Medi.
sylw ar yr adroddiad yma