Gan Iwan Llwyd
Wrth i Gymry benbaladr baratoi i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, ar y 9fed o Fawrth 2014, bydd Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn nodi dydd gŵyl un o’i gyfoeswyr – Sant Teilo, nawddsant ceffylau, coed ffrwythau – a Chaerdydd.
Mae Llandeilo yn enw cyffredin yn Ne Cymru gydag o leiaf 30 o eglwysi wedi’u cysegru yn enw’r sant (a saith arall yn Llydaw). Ond pwy oedd Teilo?
Roedd Teilo’n arweinydd crefyddol pwysig oedd yn byw yn y 6ed ganrif a daeth yn un o seintiau pwysicaf Cymru’r Canol Oesoedd. Fe’i ganed ym Mhenali, Sir Benfro tua’r flwyddyn 500. Astudiodd yr ysgrythurau ar y cyd â Dewi Sant a honnir i’r ddau ymuno â’u cyfaill Padarn ar daith i Rufain i gwrdd â’r Pab.
Ymladd dreigiau
Ymddangosodd sawl hanesyn am fywyd hudol Teilo yn ystod yr Oesoedd Canol; straeon am alw gwyrthiau i guro milwyr Sacsonaidd, tawelu dreigiau ffyrnig a marchogaeth ar gefn hydd gwyn a anfonwyd iddo o’r nefoedd gan Dduw.
Dywedir mai Teilo oedd ail esgob Llandaf a sefydlwr y gadeirlan, ac yn fuan daeth i gael ei ystyried yn nawddsant dinas Llandaf a Chaerdydd. Adeiladwyd allor yn Eglwys Llandaf i gadw ei weddillion ble’r honnwyd i bob math o wyrthiau ddigwydd. Gallwch weld Croes Sant Teilo ym mynwent Eglwys Llandaf, hefyd Ffynnon Teilo ar y ffordd lawr o’r sgwâr i’r Eglwys. Mae na Eglwysi Sant Teilo yn Cathays a’r Eglwys Newydd ac Ysgol Sant Teilo yn Llanedeyrn.
Yn y 1980au, cyflwynwyd un o’r eglwysi a gysylltid gyda Teilo i’r Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan. Symudwyd eglwys Llandeilo Talybont o’i chartref ar lannau’r Afon Llwchwr ger Pontarddulais a’i hail-godi yn yr Amgueddfa. Agorwyd yr eglwys yn 2007 gan Archesgob Caergrawnt ar y pryd sef y Cymro Dr Rowan Williams. Gellir gweld yr hanesion mwyaf poblogaidd a gysylltir â Teilo wedi eu cerfio ar sgrin grog yr Eglwys.
Am 11am a 3pm ar Ddydd Sul y 9fed o Chwefror – Dydd Gŵyl Teilo – bydd cyfle i glywed mwy am yr Eglwys a bywyd Teilo mewn sgyrsiau Cymraeg yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.
Petai ni’n byw mewn gwlad Gatholig fyddai ‘na ddathlu a fiesta fawr ymlaen ar 9 Chwefror.
Meddyliwch hynny + yr holl gemau rygbi rhyngwladol! Lwcus fod ni’n Brotestaniaid!