Gan Lora Williams
Gyda’r cyfnod arholiadau wedi cyrraedd, hanfodol ydyw i addasu arferion astudio effeithiol ar gyfer cyflawni a chynnal graddau uchel.
Nid yn unig yw hyn yn bwysig mewn amodau ysgolion a phrifysgolion, ond hefyd nes ymlaen mewn bywyd wrth geisio cyrraedd amcanion penodol a chyflawniadau arwyddocaol.
Yr allwedd i feistroli’r grefft o astudio effeithiol yw astudio craffach nid gwasgu cymaint a gallech i’ch ymennydd.
Dilynwch y 5 arferion astudio profedig ac effeithio canlynol i weld gwelliant!
Sicrhau’r meddylfryd cywir
Mae ymchwilwyr wedi canfod fod eich ymagwedd tuag at rywbeth o bwys bron cymaint â’r hyn a wnewch.
Anelwch i feddwl yn gadarnhaol pan fyddwch yn astudio, gan atgoffa eich hun o’ch sgiliau a’ch galluoedd.
Yn hytrach na chanolbwyntio ar eich methiannau, darganfyddwch ffyrdd o drechu’r rhwystrau gan wneud y fwyaf o’r deunyddiau sydd i’w gynnig i chi.
Drwy feddwl yn gadarnhaol y mae bwrw ymlaen!
Creu cynllun astudio
Cynllun astudio yw amserlen drefnus sy’n amlinellu amserau astudio a nodau dysgu myfyrwyr.
Mae’n ffordd effeithiol i’ch helpu i lywio drwy eich addysg mewn ffordd drefnus a llwyddiannus, yn ogystal â hyrwyddo hunanddisgyblaeth a’ch grym ewyllys.
Bydd rhaid i chi nodi eich nodau dysgu ar gyfer pob sesiwn astudio er mwyn gwneud y gorau o’r cyfnod a drefnwyd a sicrhau dilyniant cyson.
Gwiriwch ei fod yn gynllun rhesymol sy’n cyd-fynd â’ch anghenion a dulliau personol.
Cyfnodau adolygu
Anelwch at astudio am gyfnodau o 45-munud, gyda seibiannau o 15 munud.
Mae cael amcanion hawdd a chyraeddadwy, megis eistedd am gyfnod penodol o amser, yn effeithiol ar gyfer cynyddu cymhelliant.
Ceir cyfyngiad yn y cyfnod y gall un astudio mewn sesiwn, felly gall anwybyddu’r terfynau amser hyn fod yn wrthgynhyrchiol.
Mae sesiynau astudio hir fel arfer yn diweddu’n ddiflas, a phan fydd eich meddwl yn dechrau crwydro, mae’r astudio yn cael ei wastraffu.
Claddwch eich esgusodion a defnyddiwch eich amser yn ddoeth!
Amodau a mannau astudio
Os mai crynodiad yw eich problem, yna mae amgylchoedd cywir yn hanfodol.
Dylai eich desg astudio fod mewn lle tawel, wedi’i leoli oddi wrth unrhyw wrthdyniadau ag y bo modd. Pwysig hefyd yw astudio yn yr un man pob dydd.
Pan fyddwch yn eistedd i lawr wrth fwrdd y gegin, mi rydych yn disgwyl bwyta, felly daw hyn yn ffordd ymarferol o hyfforddi ac addasu eich meddwl.
Cadwch yr ardal o amgylch eich desg yn dwt a thaclus er mwyn dileu gwrthdyniadau astudio.
Cadwch yn iach a chytbwys
Gall diet, ymarfer corff, gorffwys a ffactorau eraill ddylanwadu ar eich gallu i ddysgu a pherfformio, yn ddeallusol ac yn gorfforol.
Nid yw darganfod cydbwysedd mewn gwirionedd yn rhywbeth y gellir ei haddysgu, ond yn hytrach daw gyda phrofiad a drwy fyw.
Serch hynny, gallwch weithio i geisio cadw eich iechyd a’ch corff yn gytbwys, drwy wneud yr hyn yr ydych eisoes yn gwybod. Cofiwch: Mae corff iach yn arwain at feddwl iach!
Cydweithredwch y dulliau uchod i’ch arferion astudio a gall y canlyniadau amrywio o raddau gwell, mwy o wybodaeth, yn ogystal â hunan-barch.
Pob lwc yn eich arholiadau!
sylw ar yr adroddiad yma