Dr Dylan Foster Evans yn Canfod Hanes y Gymraeg yng Nghaerdydd

18 Medi 2014

Dylan Foster Evans (1)Bydd Dylan Foster Evans yn cynnal cwrs newydd i Fenter Caerdydd yr Hydref hwn – Canfod Hanes y Gymraeg yng Nghaerdydd. Dyma geisio dod i adnabod Dylan, un o ‘bobl Caerdydd’ yn well…..

Ers pryd ydych chi’n byw yng Nghaerdydd?

Ers pymtheng mlynedd—anodd credu! Pan ddes i’r ddinas yn gyntaf bûm yn rhentu fflat ar King’s Road. Roedd y stryd yn Nhreganna, meddai preswylwyr y fflatiau eraill; yng Nglanyrafon yn ôl bil treth y cyngor; ac ym Mhontcanna ym marn y landlord! Wedyn bûm am ddegawd yng Nglanyrafon (yng ngwir ystyr yr enw!) Yn y cyfnod hwnnw fe briodais fy ngwraig Anna a chael dau o blant cyn symud yn ddiweddar i ardal Parc Victoria (i’r gorllewin i’r parc: ardal â’r enw traddodiadol Pwll-coch). Rwy’n gweithio yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.

Ers pryd mae diddordeb gennych mewn hanes?

Erioed, am wn i. Fel sawl plentyn arall, dechreuais gyda dinosoriaid ac archaeoleg cyn symud i gyfnodau diweddarach. Ond fe es i’r brifysgol yn y lle cyntaf i astudio mathemateg, cyn newid llwybr mewn modd eithaf sylfaenol. Yr Oesoedd Canol yw’r cyfnod rwy’n gwybod mwyaf amdano, ond rwy’n hoff o ryw botsian ychydig mewn cyfnodau eraill. Rwy’n cael Oes Victoria yn ddiddorol iawn. Dyna gyfnod sydd angen ei astudio’n fanylach, er bod agweddau pobl y cyfnod at y Gymraeg (gan gynnwys agweddau rhai o’i charedigion) yn ddigon ichi dynnu eich gwallt o’ch pen ar adegau!

Pam ydych chi’n ymddiddori cymaint yn hanes yr iaith Gymraeg yng Nghaerdydd?

Yn amlwg, rwy’n ffodus iawn fy mod yn cael cyfle i astudio’r iaith a’i diwylliant yn fy ngwaith bob dydd yn y brifysgol. Ond mae’n deg dweud ei bod wedi cymryd sawl blwyddyn yma cyn imi ddeall yn iawn mor ddwfn ac amrywiol yw hanes y Gymraeg yn y ddinas. Mae rhai pobl fel petaent yn credu bod y Gymraeg wedi ei hysgubo o Gaerdydd gan y Normaniaid, ac nad oedd yn rhan o ddiwylliant Caerdydd wedi hynny hyd nes i’r BBC agor swyddfeydd yma. Yn amlwg, mae hynny’n gwbl, gwbl anghywir. Er mai ychydig a fyddai’n coleddu syniadau mor eithafol am hanes yr iaith, mae llawer o hanes y Gymraeg yn y ddinas yn para heb ei adrodd. Erbyn heddiw, mae ysgolion Cymraeg ym mron pob rhan o’r ddinas, ac mae rhoi cyfle i blant, rhieni ac athrawon yr ysgolion hynny ddysgu bod y Gymraeg yn rhan o hanes ac etifeddiaeth eu hardaloedd hwy yn bwysig iawn. Yn wir, mae’n bwysig iawn i bawb yn y ddinas, boent yn siaradwyr Cymraeg neu beidio.

Beth yw’r peth mwyaf diddorol yr ydych chi wedi dod ar ei draws yn hanes y Gymraeg yng Nghaerdydd?

Anodd dewis! Mae’n ddifyr iawn darllen cerddi gan feirdd o oes Elisabeth y Gyntaf i uchelwyr Cymraeg eu hiaith o ardaloedd fel Trelái a Sblot. Mae cryfder y Gymraeg yn Nhre-biwt yn oes Victoria yn agoriad llygaid. Ac mae ambell fanylyn lled ddibwys yn peri gwên weithiau, megis yr enwau Cymraeg yr oedd ffermwyr yn ardal y Rhath yn eu rhoi ar eu buchod yn yr ail ganrif ar bymtheg. Rhaid crybwyll hefyd yr achosion athrod o’r ddeunawfed ganrif, er na fyddai’n addas imi nodi enghreifftiau yma gan nad yw’r iaith yn weddus iawn!  Ac wrth gwrs, mae twf diweddar y Gymraeg yn y ddinas yn hynod ddiddorol a phwysig.

Rydych chi ar fin dechrau dysgu cwrs ‘Canfod Hanes yr Iaith Gymraeg yng Nghaerdydd’ gyda Menter Caerdydd. Oes modd ichi ddweud ychydig mwy am y cwrs hwn?

Canfod Hanes y Gymraeg yng Nghaerdydd (5)Y syniad sylfaenol yw bod y cwrs yma ar gael i bobl sydd — fel fi — yn dymuno dysgu mwy am hanes y Gymraeg yng Nghaerdydd, o’r cychwyn cyntaf hyd at heddiw. Bydd yn gyfle i mi gyflwyno hanes y Gymraeg yn y ddinas mewn gwahanol gyfnodau. Ond rwy’n gobeithio hefyd y bydd cyfle i bawb yn y dosbarth gyfrannu drwy ymchwilio i un wedd arbennig ar hanes yr iaith: unigolyn, ardal neu sefydliad penodol, efallai. Mae’n siŵr y bydd sawl un ar y cwrs yn gwybod mwy na fi am rai pethau, felly rwy’n gobeithio gallu elwa ar hynny hefyd! Mae cymaint o adnoddau ar gael bellach fel bod modd i bob unigolyn fod yn ymchwilydd ei hun, drwy edrych ar bapurau newydd ar lein, dyweder, neu ar y cyfrifiadau, neu ar hen fapiau. Ond nid cwrs prifysgol mo hwn, felly ni fydd gwaith cwrs nac arholiadau i neb!

O safbwynt fy ngwaith o ddydd i ddydd, mae Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, yn bwriadu, dros y blynyddoedd nesaf, roi gryn sylw i’r Gymraeg yn ein prifddinas, o safbwyntiau hanesyddol a chyfoes, gan ddatblygu prosiect newydd yn y maes hwnnw. Os oes rhywun sydd yn dymuno gwybod mwy, mae croeso ichi anfon gair ataf (FosterEvansD@caerdydd.ac.uk, 20874843).

Gobeithio felly y’ch gwelaf chi ar y cwrs! Mae manylion llawn ar gael ar wefan Menter Caerdydd – http://bit.ly/hanes-caerdydd 

Mae’r cwrs yn cychwyn Medi 24 yn Ysgol Plasmawr. Os hoffech wybod mwy, neu i gofrestru, cysylltwch gyda sarajones@mentercaerdydd.org

Dyma Dylan yn trafod y cwrs ar Prynhawn Da yn ddiweddar.

 

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma