Diwrnod newyddion hyperlleol yn y Bae

23 Hydref 2014

Mae adeilad y Pierhead yn y Bae wedi cael ei droi’n ystafell newyddion mawr heddiw wrth i newyddiadurwyr hyperlleol Cymru gan gynnwys criw Pobl Caerdydd ddod ynghyd ar wahoddiad Llywodraeth Cymru.

Rosemary Butler, y Llywydd sydd wedi estyn y gwahoddiad i bapurau lleol a gwefanau hyperlleol er mwyn gweld sut y gall gweleidyddion cyrraedd pobl Cymru mewn ffyrdd sy’n  y tu hwnt i’r cyfryngau Prydeinig. Mae na bwyslais ar ddysgu sut mae’r Senedd yn gweithio  ond hefyd ar sut i fynd dan yr wyneb i ffendio storiau difyr sydd ddim yn cael sylw ar y cyfryngau cyffredin.

Mae nifer o bobl yma sy’n darparu newyddion lleol drwy papurau lleol – o Gwm Gwendraeth, Abertwe, Caerffili; teledu lleol  –  Bay TV a Made in Cardiff a gwefanau hyperlleol eraill fel Rhondda People. Mi fydd y myfyrwyr yn mynd ar drywydd storiau sy’n berthnasol i drigolion y ddinas gan balu drwy prosesau democratiaeth , wrth siarad a gwleidyddion, swyddogion ac ambell i ymwelydd å’r Senedd. Sut lwc gewn ni? Gewn ni weld wrth i’w storiau gael eu cyhoeddi yn y man.

Rhannu'r erthygl hon