Diolch yn fawr i’r Unthanks: adolygiad

1 Mawrth 2015

Adolygiad o gyngerdd The Unthanks yn Neuadd Dewi Sant gan Catherine Hopkins

Chwaraeodd sêr newydd cerddoriaeth gwerin The Unthanks i gynulleidfa brwydfrydig Neuadd Dewi Sant neithiwr. Mae’r chwiorydd Becky a Rachel, yn canu gyda help band llawn, sef pumawd llinynnol, drymiau, piano a mwy, caneuon traddodiadol gwerin yn eu harddull hardd eu hunain.

Mae’r chwiorydd yn dod o Northumberland, ac yn ogystal â chaneuon maen nhw wedi cyfansoddi eu hunain, mae’n nhw’n chwarae cerddoriaeth gwerin o’r ardal. Felly, dyma gymysgedd gwych o ganeuon traddodiadol ac arddull unigrwydd sy’n cynnwys bach o jazz, tamaid o faled gyda chlocsio a’r hyrdi gyrdi. Profiad anghyffredin.

Mae’r albwm newydd gan The Unthanks, Mount The Air, yn cynnwys caneuon traddodiadol gyda chaneuon eu hunain. Neithiwr, fe chwaraeon nhw gân traddodiadol Hawthorn, gan y bardd Charles Causley. Yn ôl Rachel, “No one knows how it came to be put to music. We’ve spent a lot of time trying to find out!”

Mae digon o’r caneuon hefyd wedi dod o ganeuon traddodiadol Dyfnaint hefyd. Enghraifft arbennig yw ‘Madam,’ cân brydferth, dramatig.

Cyfres cerddoriaeth gwerin yw hon, rhan o’r gyfres Roots Unearthed yn Neuadd Dewi Sant. Eleni, maen nhw’n wedi croesawu band Cymraeg Fernhill a llawer o fandiau eraill. Am mwy o fanylion am Roots Unearthed, dilynwch y linc.

 

Mae albwm The Unrhanks  Mount The Air ar gael nawr.

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma