Neges gan Ymgyrch TAG
Annwyl Bawb
Efallai bod rhai ohonoch wedi clywed bod y Cyngor wedi canslo’r dosbarth Cymraeg a addawyd inni, gyda dim ond ychydig ddiwrnodau i fynd cyn y tymor newydd.
Roedd yna fore agored wedi’i drefnu ar gyfer y 4ydd o Fedi gyda’r addewid o’r dosbarth yn dechrau’r wythnos wedyn.
Mae’r sefyllfa yn anghredadwy ac yn gwbl annerbyniol, hyd yn oed o ystyried ymddygiad gwarthus y Cyngor dros y ddwy flynedd diwethaf.
Rydym wedi penderfynu cynnal cyfarfod brys – os ydym yn gwneud digon o stŵr a sŵn, a chreu digon o embaras, mae dal gobaith inni wyrdroi’r penderfyniad.
Doedd y Cyngor ddim hyd yn oed wedi rhoi gwybod i’r rhieni sydd am ddanfon eu plant i’r dosbarth!
Manylion y cyfarfod: 8.30yh yn Nhafarn y Cornwall, Grangetown, Nos Fercher Awst 26.
Gorau oll os oes modd ichi helpu o flaen llaw am 7yh i ddosbarthu taflenni – rydym yn ymgynnull ar bwys Byddin yr Iachawdwriaeth ar waelod Corporation Rd.
Hwyl
Jo a Huw
https://www.facebook.com/ymgyrchtag
sylw ar yr adroddiad yma