Ar gyfer yr ieuainc a’r dewr bydd digwyddiadau dychrynllyd a dieithr yn cael eu cynnal yng Nghastell Caerdydd yn ystod gwyliau hanner tymor o ddydd Sadwrn 24 Hydref tan ddydd Sul 1 Tachwedd.
Mae ymddangosiadau anesboniadwy, ffilmiau brawychus, bwystfilod bach, storïau a llwybrau ar themâu penodol, gwneud masgiau a chrefftau ond rhai o’r gweithgareddau sydd ar y gweill ar gyfer yr hyn sy’n addo bod yn Nos Calan Gaeaf brysur iawn.
Yn newydd eleni bydd cyfle i ymuno yn yr helfa i chwilio am y Lleidr Pen-ffordd cyfrwys, ond bydd rhaid datrys pos cyn y gellir dod o hyd iddo.
Yn dilyn y galw mawr amdanynt mae’r Ystafelloedd Tywyll yn eu holau lle detholiad o ffilmiau bwganllyd gan gynnwys Monsters University, The Nightmare Before Christmas, Young Frankenstein, Beauty and the Beast a Princess Bride yn cael eu dangos.
Bydd y Dewin Wizziwig ac Ermintrude y Wrach yn adrodd straeon iasol a bydd bwystfilod bach dychrynllyd – pryfed cop, sgorpionau, brogaod a llyffantod – i’w gweld yn yr Is-grofft.
A bydd cyfle i ddod mewn gwisg Calan Gaeaf ar gyfer gorymdaith Nos Calan Gaeaf ar ddydd Iau 29 Hydref a dydd Gwener 30 Hydref am 1pm.
Mae manylion llawn a phrisiau tocynnau ar Castell Caerdydd.
sylw ar yr adroddiad yma