Mae Owen Jones o ardal Llandâf ar fin dechrau fel disgybl yn Ysgol Plasmawr fis Medi ac mae’n dwli ar ysgrifennu- yn enwedig am chwaraeon. Mae Pobl Caerdydd felly wedi gwahodd y ciw newyddiadurwr i gyfrannu’n rheolaidd. Mae’r Gemau Olympaidd wedi bod yn denu ei sylw ac yma mae’n taflu golau ar berfformaid un o’i arwyr yn y pwll nofio.
A glywsoch chi erioed am nofiwr proffesiynol, nofiwr sy’n dal mwy o fedalau ‘na‘r gwibiwr Usain Bolt yn y 200m bellach. Ond nofiwr a oedd yn ofni’r dŵr pan oedd yn blentyn? Adam Peaty o Derby yw’r dyn ifanc 21 mlwydd oed yma.
Mae Adam Peaty fel coeden, gyda llawer o frigau gwahanol, o’i gryfder a ffitrwydd i’w allu meddyliol i ennill. Ond pryd ddechreuodd antur Peaty i fod yn ennillydd medal aur yn y gemau Oympaidd?
Roedd Peaty’n mwynhau ei nofio ac yn nofio’n wych ond doedd ganddo ddim y brwdfrydedd di-stop i fod yn ennillydd. Ond newidiodd popeth yn ystod y gemau Olympiadd yn 2012. Wrth iddo paratoi i fynd i fwynhau gyda’i ffrindiau, sbardinodd rhywbeth yn ei galon wrth iddo edrych ar ei ffon am ganlyniadau’r nofio pan welodd enw Craig Benson yn cystadlu yn y 100m breastroke, sef ei gystadleuaeth ef.
Cyrhaeddodd y gemau ac ar ôl dau ddiwrnod hirfaeth a blinedig o aros ennillodd Peaty’r fedal aur pur. Er nad oedd wedi cystadlu yn y gemau Olympaidd o’r blaen, aeth i’r gystadleuaeth fel y ffefryn ar ôl iddo gipio medalau ym mhob un o’r cystadleuathau 100m breastroke ers y Gemau y Gymanwlad anhygoel a gynhalwyd yn Glasgow yn 2014.
Chwalu’r record
“He’s obliterated the world record, he’s the Olympic champion, a gold medal for Adam Peaty of Great Britain”
Dyma’r hyn a ddywedodd Andy Jameson ar ôl camp Peaty. Ond nid dyma’r unig fedal ennillodd Peaty yn y gemau. Ennillodd fedal arian yn y ras gyfnewid 4x100m, gan gystadlu wrth gwrs yn y ‘breastroke‘ tra bod Chris Walker-Heborn yn nofio’r dull cefn, James Guy pencampwr dull cefn 200m y byd yn nofio’r dull pili-pala a Duncan Scott o’r Alban yn cystadlu yn y dull rhydd.
Yn wahanol i’w gyd-gystadleuewyr a oedd yn cadw ei egni ac yn nofio’n chwim ar y diwedd, bu Peaty yn rasio o’r eiliad gyntaf ac yn defnyddio’i ffitrwydd yn ogystal â’i gryfder i nofio i’r brig.
Ond diolch byth iddo orchfygu ei ofn o ddŵr neu fuaswn erioed wedi gweld ei berfformiadau aruthrol.
sylw ar yr adroddiad yma