Caerdydd 3 Huddersfield 1
Gan P.D.W.B
Ar ôl un tymor siomedig gyda’r bechgyn mawr mae’r Adar Gleision yn ffeindio eu hunain nol yn y Bencampwriaeth eto. Ac er bydd y daith nol lan yn hir ac yn galed o leiaf mae tîm Ole Gunnar Solskjaer wedi cymryd y ddau gam gyntaf heb lawer o drafferth.
Yn dilyn gem gyfartal i ffwrdd yn erbyn Blackburn yn eu gem gynta roedd e’n bwysig iawn bod Caerdydd ddim yn gwneud cawlach o bethau yn eu gem gynta gartre. Gyda llawer o bobol yn dal i gwestiynnu doethineb apwyntio Ole yn lle Malky, a saith mil o’r ffans wedi diflannu dros nos (heb son am ffrae y crysau coch) roedd pwysau mawr ar y rheolwr a’r chwaraewyr i berfformio’n dda.
Roedd yr hanner awr cynta’n eitha difflach ond newidiodd popeth pan wnaeth yr hen stager Whittingham benderfynu saethu o 30 llath. Roedd pawb yn syfrdan, yn enwedig gôl-geidwad Huddersfield, pan ymddangosodd y bel yn sydyn yng nghefn y gôl. Math o gol roedd Whittingham yn arfer sgorio’n aml blynydde’n ôl a gobaith ffans Caerdydd yw bod e wedi ail-ffeindio ei mojo oherwydd ei bwysigrwydd i’r tîm pan mae’n chwarae’n dda.
Saith munud ar ol hynny sgoriodd Kenwyne Jones ar ôl gwaith da gan Daehli a dechreuodd pawb ymlacio. Camgymeriad mawr! Roedd meddwl amddiffynwyr Caerdydd ar y paned hanner amser pan sgoriodd Hudderfield o gic gornel heb unrhyw drafferth o gwbl gan newid yr awyrgylch yn y stadiwm.
Roedd e’n hawdd dychmygu pethau’n mynd o ddrwg i waeth yn yr ail hanner ond gyda gôl arall gan Kenwyne Jones yn y 56 munud dechreuodd Caerdydd reoli’r gem eto. Ac ar wahan i un cyfle i Huddersfield pan bwrodd Nakhi Wells y postyn o ongl cul, doedd dim rheswm i Ole a’r dorf boeni ragor.
Cafodd Adeyemi, chwaraewr newydd o Birmingham, gem gynta ardderchog ac roedd ei ddylanwad e yng nghanol y cae yn ffactor mawr ar berfformiad chwaraewyr eraill. Pan daeth chwaraewr newydd arall ar y cae, Guerra o Sbaen, roedd e hefyd yn edrych yn siarp. Ac os yw Kenwyne Jones ddim yn newydd mae e bendant yn edrych fel chwaraewr newydd! Y llynedd basai hyd yn oed ei fam yn ffeindio fe’n anodd i ddweud rhywbeth da amdano , ond y tymor ‘ma mae e wedi sgorio 3 gol mewn 2 gem.
Dechreuad da i’r tymor felly ond a fydd e’n parhau? Mae carfan enfawr gyda Caerdydd, yn llawn chwaraewyr talentog a phrofiadol. Gyda llawer o chwaraewyr sy wedi profi’n barod bod nhw’n gallu ennill y Bencampwriaeth……Whittingham, Hudson, Connolly, Gunnarsson, Marshall, Kim…….a nifer o chwaraewyr newydd gyda llawer o botensial, dylai Caerdydd gael tymor llwyddianus. Cawn ni weld! Chwaraewr y gêm: Tom Adeyemi
sylw ar yr adroddiad yma