Ger y bar, ar faes chwarae, yn y gwaith, wrth ddesg neu gae, cwyd dy lais, Shwmae Su’mae!
(gan Llion Jones)
Ar ddydd Mawrth, Hydref 15ed cynhelir nifer o weithgareddau ar draws y wlad i ddathlu Diwrnod Shwmae Sumae! Nôd yr ymgyrch yw:
- gwneud y Gymraeg yn llawer mwy amlwg a chyhoeddus,
- dangos bod yr iaith yn perthyn i bawb yng Nghymru, beth bynnag yw eu medrusedd
- a sicrhau defnydd o’r Gymraeg drwy’r flwyddyn.
Bu’r ymgyrch yn lwcus iawn i dderbyn cefnogaeth nifer o enwau amlwg yng Nghymru gan gynnwys y gantores a’r ddarlledwraig uchel ei pharch, Cerys Matthews.
Dywedodd Cerys:
“Rwy’n falch o gefnogi Diwrnod Shwmae Sumae! Peidiwch a becso os yw’ch Cymraeg chi bach yn rhydlyd. Does dim ots, give it a go!
“Mae’n grêt gweld pobl yn tynnu at ei gilydd ar Ddiwrnod Shwmae Sumae! i ddathlu’r Gymraeg. Cefnogwch y diwrnod! Siaradwch yr iaith a gwnewch eich gorau ble bynnag ydych chi!”
Fel rhan o weithgareddau’r diwrnod mae Menter Caerdydd wedi trefnu bore coffi yn y Mochyn Du am 11yb.
Yn ogystal â hyn mae Aelodau’r Cynulliad, Simon Thomas, Suzy Davies, Aled Roberts a Keith Davies wedi gosod datganiad barn ar lawr y Senedd yn cefnogi’r Diwrnod.
Dywedodd Morgan Jones, un o gyflwynwyr prysuraf a mwyaf poblogaidd S4C:
“Mae’n anrhydedd cael bod yn un o Bencampwyr Diwrnod Shwmae Sumae! oherwydd rwy’n teimlo’n angerddol ynglŷn â hyrwyddo’r Gymraeg ac annog pobl i’w defnyddio ar bob cyfle bosib.
“Yn bersonol, y Gymraeg sy’n fy niffinio i fel person gan mai ein mamiaith sy’n ein gwneud yn wahanol i bawb arall yn y byd. Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ein gwneud yn bobl unigryw.
“Y Gymraeg yw’r ddolen gyswllt rhyngof i a fy ngwlad – ei hanes, ei diwylliant, ei thraddodiadau a’i thir. Mae’n rhan annatod o’n hanes ac fe wnai fy ngora i’w hamddiffyn a’i gwarchod a sicrhau y bydd yn rhan o ddyfodol ein plant hefyd am genedlaethau i ddod. Y Gymraeg yw ein trysor pennaf.”
Am fyw o fanylion ewch i dathlu.org
Mudiad Dathlu’r Gymraeg ar facebook
@shwmaesumae #shwmae
sylw ar yr adroddiad yma