Gyda goleuadau’r Nadolig ymlaen yng nghanol y ddinas, mae’n meddyliau ni’n dechrau troi at bethau i’w gwneud hefo’r teulu dros yr ŵyl.
Felly dyma i chi ganllaw Pobl Caerdydd i beth sy’ ‘mlaen dros yr wythnosau nesaf – ac os ydych chi’n gwybod am unrhyw ddathliadau, gyngherddau neu adloniant Nadoligaidd yn y ddinas i ychwanegu at y rhestr, rhowch wybod i ni! Ebostiwch helo@poblcaerdydd.com neu gadewch y manylion ar waelod y stori.
- The Lion King – tan 11 Ionawr 2015
- The Frozen Scream – 11-20 Rhagfyr
- Cinderella, gyda Gareth Thomas – dydd Sadwrn 13 Rhagfyr 2014 tan ddydd Sul 18 Ionawr 2015
- Nos Galan yn Chapter – nos Fercher 31 Rhagfyr, 7pm tan 2am
- Gŵyl Ballet Rwsiaidd: The Nutcracker, Coppélia a Swan Lake – 20 Rhagfyr tan 3 Ionawr
- Sesiynau sglefrio, Lawnt Neuadd y Ddinas – tan ddydd Llun 5 Ionawr 2015
- Groto Swyddogol Siôn Corn, Heol y Frenhines – tan 24 Rhagfyr
- Calennig – 9.30pm 31Rhagfyr/12.20am 1 Ionawr
- Groto Siôn Corn – bob penwythnos ym mis Rhagfyr, a 22 a 23 Rhagfyr
- The Ugly Duckling – 8 Rhagfyr tan 3 Ionawr 2015
- Teithiau Siôn Corn – dydd Iau 4 tan ddydd Mercher 24 Rhagfyr
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
- Carolau yn yr Amgueddfa – dydd Iau 18 Rhagfyr
- Cert Celf Gwyliau Nadolig – 23, 27-28, 31 Rhagfyr a 2 Ionawr 2015
Sain Ffagan, Amgueddfa Werin Cymru
- Cyfarfod Siôn Corn a’i Gyfeillion – 29/30 Tachwedd, 6/7, 13/14 a 20/22 Rhagfyr
- Gweithdy Addurniadau Nadolig – 20–21 Rhagfyr
Cyngerdd Nadolig Menter Caerdydd
Gyda Band Ukulele Menter Caerdydd, Côr Plant Caerdydd, Bechgyn Bro Taf, Geraint Cynan a Delwyn Sion – Clwb Rygbi yr Eglwys Newydd, 21 Rhagfyr, 6.30pm
sylw ar yr adroddiad yma