Datganiad gan Gyngor Caerdydd
Bydd Cyngor Dinas Caerdydd yn coffau 70fed pen-blwydd Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop (Diwrnod VE) gyda llu o ddigwyddiadau i goffau, dathlu a myfyrio ynghylch y rheiny gollodd eu bywydau yn yr Ail Ryfel Byd.
Bydd y gyfres o ddigwyddiadau yng Nghymru yn cyd-daro â rhaglen helaeth o ddigwyddiadau cenedlaethol, ac yn cael eu cyflwyno mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, y Lleng Frenhinol Brydeinig a chynrychiolwyr milwrol.
Dywedodd y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Margaret Jones: “Mae Diwrnod VE yn ddigwyddiad arwyddocaol dros ben, sy’n ein galluogi i gofio’r rheiny a gollodd eu bywydau yn ystod yr Ail Ryfel Byd a dangos ein gwerthfawrogiad o’u haberth.
“Bydd Caerdydd yn cynnal rhaglen o ddigwyddiadau â’r nod o ddathlu a choffau tra’n dwyn atgofion i lawer o bobl, yn ogystal â bod yn gyfle i genedlaethau ifainc ddysgu a gwerthfawrogi’r hyn a gyflawnwyd gan ein milwyr a merched yn enw rhyddid.”
Ar ddydd Gwener 8 Mai am 2.45pm bydd Castell Caerdydd yn tanio saliwt ac yn cynnal dau funud o dawelwch a ddilynir gan wasanaeth coffa lle rhoddir cyfle i ddinasyddion a chynrychiolwyr y lluoedd arfog osod torchau.
Am 9.00pm ar fachlud haul, bydd y Castell yn ymuno â lleoliadau eraill ledled y Deyrnas Unedig mewn digwyddiad Cynnau Ffaglau Cenedlaethol drwy gynnau ffagl ar ben gorthwr y castell. Bydd hwn yn ddigwyddiad cyhoeddus yn cynnwys darlleniadau a cherddoriaeth gan y lluoedd arfog.
Ar ddydd Sadwrn 9 Mai am 11.00am, bydd amrywiol leoliadau ledled Cymru yn canu clychau, gan ail-greu’r digwyddiadau a ddigwyddodd 70 mlynedd yn ôl i dathlu diwedd y rhyfel. Bydd clychau Eglwys Gadeiriol Llandaf yn canu, gydag eglwysi eraill ledled y ddinas yn cael eu hannog i gymryd rhan.
Ar ddydd Sul 10 Mai o 12.00 tan 5.00pm, bydd Castell Caerdydd yn cynnal picnic teuluol Diwrnod VE i adlewyrchu’r dathliadau cymunedol a gynhaliwyd yr adeg honno. Gwahoddir y cyhoedd i mewn i’r castell am ddim i fwynhau cerddoriaeth ac adloniant o’r 1940au ac anogir ymwelwyr i ddod â phicnic gyda hwy a gwisgo dillad sy’n nodweddiadol o’r cyfnod.
Mae Diwrnod VE yn nodi diwedd yr Ail Ryfel Byd yn Ewrop yn dilyn ildiad lluoedd arfog Natsiaidd yr Almaen ar 8 Mai, 1945.
sylw ar yr adroddiad yma