I dathlu’r Wythnos Wyddoniaeth Genedlaethol ym mis Mawrth eleni bu disgyblion Pencae yn brysur iawn yn trefnu pob math o weithgareddau cyffrous.
Dyma adroddiad Celyn a Megan o Flwyddyn 5:
Bu pob dosbarth yn cynnal arbrofion o bob math ar thema’r Gofod wrth i ni drafod hynt a helynt ein harwr Tim Peake ar yr ISS.
Bu rhai o ddisgyblion y Cyfnod Sylfaen yn ymarfer eu sgiliau mân modur wrth wisgo menyg trwchus tra’n adeiladu tyrrau Lego a rhai o blant hŷn yr ysgol yn cynllunio ac yn cynnal arbrofion i ddarganfod pa liwiau sydd yn oer ac yn gynnes.
Roedd yn rhaid cynnwys y rhieni a’r teuluoedd yn y dathlu hefyd wrth gwrs
Gosodwyd tasgau gwyddonol i’w gwneud yn y cartref hefyd, megis creu lampau lafa a chatapwltiau.
Cynhaliwyd Ffair ar y dydd Mawrth ar ôl ysgol. Roedd yn llawn hwyl a sbri a llwyddodd heb os nac oni bai i gyffroi brwdfrydedd disgyblion Pencae yn fwy fyth am wyddoniaeth.
Roedd yna lawer iawn o stondinau y tu fas a thu fewn i’r ysgol e.e cimwch, mwydod, model o ddyfrgi, anifeiliaid cuddliw a llawer llawer mwy.
Roedd myfyrwyr a darlithwyr o Adran Biowyddorau Prifysgol Caerdydd, disgyblion o Blasmawr ynghyd a rhieni y Clwb Gwyddoniaeth yn arwain y gweithgareddau.
Daeth torf enfawr, dros 200 i gyd, yn blant a’u rhieni, yn frodyr a chwiorydd i gefnogi’r Ffair. Roedd cyffro mawr o gwmpas y stondin Cynhron a oedd yn rasio yn erbyn ei gilydd wrth ddianc o’r golau. Hefyd roedd stondin y teulu o gimychiaid yn boblogaidd iawn.
Cawson ni lawer iawn o sbort yn chwarae gyda’r baw trwyn ffug! Ych-a fi!
Ond tybed pwy fydd enillydd Cwis y Ffair? Mae pawb ar bigau’r drain ym Mhencae yn aros yn eiddgar am y canlyniadau…..
Ym Mlwyddyn 5 wedyn ar y dydd Iau bu Mrs Hayes yn sôn am ei harwr mawr yn y byd Gwyddoniaeth, sef y gwyddonydd byd enwog o Gymru, Syr John Meurig Thomas.
Bûm fel dosbarth yn brysur yn cywain gwybodaeth amdano ac yn ceisio darganfod pam fod ein hathrawes cynradd ni yn edmygu Cemegydd o fri?
Erbyn diwedd y prynhawn ar ôl trafod ac ymchwilio am amser, fe ddaeth yr ateb i ni’n glir fel cloch. Mae Mrs Hayes wrth ei bodd yn coginio ac mae Cemeg yn debyg iawn wrth gwrs i goginio wrth i chi gymysgu defnyddiau gyda’i gilydd i greu defnyddiau newydd.
Wedi diwrnod caled yn yr ysgol ar y dydd Gwener a ninnau wedi blino’n lân ar ôl cyffro’r holl wythnos, pwy ddaeth heibio i’n gweld ni, ond Syr John Meurig Thomas ei hun!
Roedd blwyddyn 5 yn ddigon ffodus i gael y cyfle i gwrdd ag e cyn mynd adre.
Roedd rhaid bachu ar y cyfle i ofyn ambell i gwestiwn ac i dynnu llun.
Cawsom sgwrs ddiddorol iawn ganddo: Dwedodd mai ei hoff offer gwyddonol yw’r meicrosgop drydanol er mwyn gallu gweld pethau’n fwy clir a manwl.
Cyfaddefodd wrthym pan oedd yn blentyn, nad oedd e yn ffan mawr o wyddoniaeth. Roedd wrth ei fodd gyda rygbi, dramâu a chanu.
Adroddodd hanesion i ni hefyd am yr arbrofion gwyddonol peryclaf a fu.
Mae Syr John Meurig Thomas yn crwydro’r byd yn sbarduno gwyddonwyr o bob oed.
Wyddoch chi hefyd bod mineral wedi ei enwi ar ei ôl, sef Meurigite?
Roedd hi felly yn fraint cael gwrando arno’n sgwrsio. Rydym yn falch iawn ei fod wedi taro i mewn. Dyna beth oedd diweddglo arbennig i’r Wythnos Wyddoniaeth.
Diolch i bawb a fu’n helpu i drefnu Wythnos Wyddoniaeth bythgofiadwy y ni ym Mhencae eleni.
Rydym yn sicr wedi cael ein hysbrydoli ac yn dwlu ar Wyddoniaeth hyd yn oed yn fwy fyth nawr.
sylw ar yr adroddiad yma