Neges oddi wrth Bwyllgor Clwb y Diwc
Fel y gwyddoch erbyn hyn mae’r Duke of Clarence wedi cau ac mae Clwb y Diwc yn ddigartref. Ar ôl cynnal ambell i ddigwyddiad ers hynny, mae’r pwyllgor wedi penderfynu rhoi’r gorau iddi am y tro.
Diolch i chi am eich cefnogaeth dros y saith mlynedd diwethaf – cafwyd nifer fawr o nosweithiau gwych ac fe godwyd miloedd o bunnau a gafodd eu dosbarthu i wahanol grwpiau yn Nhreganna i hyrwyddo’r Gymraeg yn yr ardal.
Os hoffech ddod i ddathlu diwedd yr hen Glwb y Diwc a hel atgofion mae croeso i chi ymuno a’r pwyllgor yn y Cwtsh yn Chapter nos Wener y 27 Tachwedd o 8.30pm ymlaen.
Croeso i bawb.
Dyna sioc a siom! Ond beth am ail-sefydlu’r pwyllgor yn fuan, pan fydd modd trefnu digwyddiadau yn yr Hen Lyfrgell? Gall hynny ddenu Cymry Cymraeg dwyrain Caerdydd yn ogystal. Never say die…