gan Lois Eckley, Oxfam Cymru
Gyda 100 perfformiad mewn 10 lleoliad, mae Takeover Oxjam Caerdydd yn cyrraedd y ddinas dydd Sul, Tachwedd 11eg. Bydd cyfres o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal trwy’r dydd gyda cherddoriaeth, comedi, ffilm a chyfle i wneuthurwyr ffilm newydd gael arbrofi hefyd.
Mae Blue Box Promotions, Fizzi Events a Sure Shot wedi dangos eu cefnogaeth i Oxjam Caerdydd trwy roi llwyfan ar gyfer perfformwyr yn y Moon Club, Dempsey’s a Gwdihw.
“Llynedd mi welon ni gannoedd o bobl yn dod i’r digwyddiad ac rydym ni eisiau gweld llwyddiant cystal os nad gwell eleni,” meddai Jody Tozer, Rheolwraig Takeover Oxjam Caerdydd.
“Gyda chefnogaeth y gymuned yng Nghaerdydd fe allwn ni godi arian a dathlu cerddoriaeth a thalentau lleol ar yr un pryd. Os ydych chi’n caru cerddoriaeth, comedi a ffilm dewch i ymuno gyda ni yn y digwyddiad yma.”
Dechreuodd Oxjam Caerdydd yn 2006 gyda’r bwriad o greu rhwydwaith o bobl sydd yn caru cerddoriaeth yn y ddinas ac i ymuno i godi arian er mwyn taclo tlodi byd-eang. Mae’r digwyddiad wedi goroesi saith mlynedd yn ddiweddarach.
Dilynwch ni ar Trydar @oxjam_cardiff a Facebook am fwy o wybodaeth am yr achlysur.
Tocynnau ar werth rhwng £7.50 – £10.
sylw ar yr adroddiad yma