Adroddiad gan Rebeca White o Batagonia.
Bydd blwyddyn 2015 yn gyfnod prysur iawn yn Chubut oherwydd dathlu glaniad y Cymry cyntaf yn y Wladfa.
Dechreuwyd ar gynlluniau´r dathlu gyda phwyllgorau a phobl Cymry eraill yn 2011 a phenderfynon nhw mai Cymdeithas Dewi Sant Trelew fyddai´n cydlynu’r broses i gyd.
Sefydlwyd pwyllgorau ardaloedd i ddechrau meddwl am brosiectau ar gyfer y dathlu sef “Amigos de la Colectividad Galesa de Rawson”; “Pwyllgor De, Comodoro Rivadavia a Sarmiento”; “Pwyllgor yr Andes, Esquel a Threvelin”; ac yn y Dyffryn, is-bwyllgorau mewn pynciau gwahanol, fel iaith; diwylliant; addysg; chwaraeon; twristiaeth; a.y.b. Mae gan bawb gwaith caled o’u blaenau.
Ym mis Hydref ym mlwyddyn 2013 cafodd y Gymdeithas Dewi Sant y cyfarfod cyntaf gydag Arlywydd Chubut, sef Martín Buzzi, a rhan o´i gabinet. Cyflwynwyd dogfen y dathliad sy wedi cael ei chynllunio gydag awgrymiadau´r holl bwyllgorau gan Gadeirydd Cymdeithas Dewi Sant a rhai o aelodau’r pwyllgor. Ar ôl hynny roedd cyfarfodydd rhyngddynt wedi cael eu cynnal bron pob mis i drafod amrywiaeth gweithgareddau.
Nod y Dathliad:
- Dangos pwysigrwydd y cyfnod pan gyrhaeddodd y Cymry cyntaf a thrwy hynny cysylltu ardal Patagonia â´r map cenedlaethol am y tro cyntaf. Hefyd mewn ffordd heddychol cysylltwyd â´r brodorion.
- Cadw diwylliant i gyd ar gyfer cenedlaethau´r dyfodol.
- Cryfhau cysylltiad rhwng Cymru a’r Wladfa mewn ffordd i gyfoethogi´n gilydd.
- Dangos hanes Y Wladfa a´i phwysigrwydd yn nathlysion yr Ariannin fel Gwlad annibynnol..
Rhai o’r prosiectau
- Cael cydnabyddiaeth y dathliad gan Lywodraeth yr Ariannin, Llywodraeth y Dalaith a Chynghorau trefi lle oedd y Cymry wedi ymsefydlu, sef Puerto Madryn, Rawson, Gaiman, Trelew, Dolavon, 28 de Julio, Esquel, Trevelin, Comodoro Rivadavia a Sarmiento.
- Ymgasgli hoff emynau trigolion Chubut ar gyfer Detholiad Cymanfaoedd 2015.
- Creu cerfluniau “Sesquicentenario” i osod ym mhob pentrefi nodais i yn barod.
- Cynllunio a chyhoeddi tudalen ar y rhyngrwyd.
- Adennill yr enwau Cymraeg a enwyd ar y llefydd ar y ffordd o Porth Madryn i Trevelin gan y Cymry gyntaf. Gosodd arwyddion dwyieithog ar hyd y ffordd.
- Ail-gyhoeddi llyfrau hanesyddol y Wladfa yn Sbaeneg a Chymraeg. Yn arbennig rhai sy ddim ar gael ar hyn o bryd.
- Gwahodd Cynghorau´r Pentrefi i osod “Plazas Temáticas” yn eu hardaloedd.
- Gwella Mynwent Moriah lle mae´r Cymry yn gorffwyso.
- Cynnig cyrsiau Cymraeg i weithwyr mewn swyddfeydd twristiaeth.
- Ymestyn oriau dysgu Cymraeg yn y dalaith gyda chefnogaeth Llywodraeth Chubut.
- Trefnu cystadlaethau gwahanol chwaraeon o fewn y dalaith a thramor hefyd.
- Trefnu cyngherddau a pherfformiadau drama yn ystod blwyddyn 2015 ond yn enwedig ar adeg Diwrnod Dewi Sant, Gŵyl y Glaniad, Eisteddodd Chubut, Eisteddfod y Bobol Ifanc, Eisteddfod Mimosa, Eisteddfod Trevelin.
Dyma gofnodion rhai o´r brosiectau ar gyfer y dathliad mawr y flwyddyn nesaf. Gobeithio eich bod chi wedi cael blas ar y digwyddiadau sydd i fod o´n blaenau.
Croeso i bob un ohonoch ymuno yn y dathliadau draw yn Wladfa, byddwch yn sicr o gael croeso mawr. Cofiwch, bydd pob math o weithgareddau yn y dalaith.
A oes angen mwy o wybodaeth? Ewch I www.galesesenpatagonia.com.ar
Tan y tro nesaf!
Rebeca White
sylw ar yr adroddiad yma