gan Heledd Melangell o ymgyrch ‘Keep Osama Safe in Cardiff’
Yn 2011 fe wnaeth Osama Elkwildi ffoi i’r DU, gan fod angen hafan arno oddi wrth gyfundrefn Gaddafi yn Libya. Ers i’r anrhefn a ffrwydrodd yn ystod ac ar ôl i NATO fomio’r wlad gan newid y gyfundrefn, y mae Osama nawr yn ofni y caiff ef a’i frawd, Ali, eu targedu oherwydd eu bod yn weithgar yn wleidyddol yn erbyn y militias. Ers Ionawr 2012 nid oedd ganddo unrhyw gyswllt â’i deulu ac nid oedd ganddo unrhyw syniad ble yr oedden nhw nes iddo glywed ganddynt ym Mehefin 2013. Dyma un prawf o sefyllfa enbyd yn y wlad.
Heddiw y mae ansefydlogrwydd difrifol, diffyg diogelwch, a charfanu rhanbarthol yn gwrthryfel yn rhan o fywyd bob dydd yn Libya.
Dim ond yn ddiweddar yn y newyddion clywom fod dyn Prydeinig a dynes o Seland Newydd wedi cael eu saethu’n farw yng ngorllewin Libya gan militia – mae hyn yn dangos pa mor fregus ac yn ansefydlog yw’r sefyllfa yn Libya heddiw.
Mae Osama wedi bod yng Nghaerdydd am nifer o flynyddoedd. Yn y cyfnod hwnnw fe ddysgodd Saesneg a fu’n gwirfoddoli mewn siop Oxfam leol. Mae’n fynychwr rheolaidd yn ei fosg lleol, Al Manar, ac mae’n chwarae pêl-droed ym Mharc y Rhath a Llys Talybont ar Heol y Gogledd. Mae’n adnabyddus gan ei gymdogion ac mae ganddo berthynas dda gyda nhw ac mae ganddo lawer o ffrindiau ar hyd Heol y Plwca, Caerdydd.
Bu Osama hefyd yn astudio Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Building Service Engineering) ers blwyddyn a hanner yng Ngholeg Glan Hafren a Champws Trowbridge ac yn ogystal â hyn yr oedd yn mwynhau mynd i’r gampfa i wneud ymarfer corff.
Ar ddydd Sul y 22 Rhagfyr cafodd ei gipio gan Heddlu De Cymru ar Heol y Plwca a’i drosglwyddo i Ganolfan Cadw Campsfield. Ddoe cawsom y newyddion drwg ei fod wedi derbyn ‘Cyfarwyddiadau Tynnu’ (Removal Directions) i Libya ar hedfan British Airways ar yr 12fed o Ionawr 2014.
Nid ydym am ein cyfaill gael ei ddychwelyd i Libya. Rydym am iddo aros yng Nghaerdydd ble mae o wedi adeiladu bywyd iddo’i hun yn ei gymuned leol. Rydym am iddo fod yn gallu aros yn ein plith ac i aros gyda’i gariad y mae yn ei garu.
Twitter: @HeleddMelangell. Am fwy o wybodaeth am achos Osama Elkwildi a’r ymgyrch i’w gadw yn yr DU cliciwch yma neu ewch i’r dudalen facebook.
sylw ar yr adroddiad yma