Mae Achub y Plant yn gwahodd teuluoedd i ddigwyddiad am ddim yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar ddydd Iau 30 Hydref i ddathlu popeth sy’n hudolus am ddarllen.
Rhwng 10.30am a 5.30am bydd amrywiaeth eang o westeion arbennig gan gynnwys cyflwynydd CBeebies Alex Winters, cyflwynydd Cyw Gareth Delve, a chymeriadau y Gryffalo, Wini’r Wrach a Sali Mali yn dod draw i gwrdd â’r cefnogwyr ifanc.
Mae’r digwyddiad yn rhan o ymgyrch genedlaethol o’r enw Darllena.Datblyga gan glymblaid o elusennau amlwg, sefydliadau, athrawon ac awduron plant yng Nghymru sydd wedi dod ynghyd i gael pob plentyn 11 oed yn darllen yn dda erbyn 2025.
Bydd y digwyddiad yn cynnig llawer o weithgareddau a gweithdai rhyngweithiol hwyliog i deuluoedd a bydd rhai wynebau enwog yno, yn awduron, darlunwyr a chymeriadau ffuglennol yn cyflwyno Sesiynau Adrodd Stori, Barddoniaeth gyda Bang! a helfa drysor Chwilio am Air
Bydd Dysgwch Eich Anghenfil i Ddarllen hefyd yn taro heibio i’r digwyddiad ac yn dangos eu ap darllen newydd.
Alex Winters, y cyflwynydd teledu plant poblogaidd ar CBeebies ac sydd yn wreiddiol o Gaerdydd, fydd yn arwain y diwrnod. Meddai Alex:
“Roedd darllen yn agor byd hollol newydd yn llawn dychymyg ac mae’n fyd yr wyf yn dal i fyw ynddo o ddydd i ddydd drwy fy ngwaith fel cyflwynydd teledu plant ar CBeebies.
“Fydda i byth yn blino ar lyfrau a straeon plant a byddaf wrth fy modd yn gweld wynebau plant yn goleuo gyda chyffro pan fyddant yn cael eu dal mewn stori wirioneddol dda.
Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am Darllena.Datblyga fan hyn.
sylw ar yr adroddiad yma