Cyfrannwyd gan James Nee
Bydd y sgwrs nesaf yng ngyfres o ddarlithiau yr Ysgol Sul yn digwydd am 11.00am ar Dydd Sul, 30 Mehefin ac yn cael ei draethodi gan Peter Thomas – dyn busnes o Port Talbot a gafodd wybod fod ganddo Hodgkin’s Lymphoma yn 2007. Tyfodd tiwmor 7cm gan 11cm o ran maint yn ei frest a chafodd driniaeth am 18 mis, gan gynnwys Trawsblaniad Cell Bôn yn Ysbyty Athrofaol Cymru a threuliodd un mis ar ei ben ei hun mewn stafell yn y ‘sbyty rhag ofn iddo ddal haint.
Mae’r profiad wedi gwneud iddo ail ystyried ei safbwynt ar fywyd ac mae’n gweld y pwysigrwydd o ddod o hyd i’r cydbwysedd cywir ar gyfer byw bywyd prysur. Mae Peter hefyd yn cwestiynu sut rydym yn delio â heriau bywyd a sut i lywio ein ffordd drwy’r helyntion bywyd yma.
Bydd Peter yn derbyn y Wobr Macmillan Douglas ddydd Mercher Mehefin 26 am ei wasanaeth i Gymorth Canser Macmillan.
Fydd y sgwrs yn digwydd yn y Pierhead ym Mae Caerdydd. Mae’r Ysgol Sul yn gyfres o sgyrsiau seciwlar sy’n anelu i addysgu, ysbrydoli, a dathlu syniadau da ar gyfer Cymru a thu hwnt.
Am fwy o wybodaeth cliciwch yma neu cysylltwch â James Nee yn james@sundayschoolwales.org.
sylw ar yr adroddiad yma