Mae project tair blynedd o ddogfennu, curadu a digideiddio detholiad o ffotograffau hanesyddol o gasgliadau cenedlaethol Cymru wedi esgor ar arddangosfa newydd Dadorchuddio Ffotograffiaeth Hanesyddol yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Mae’r project Delweddau Naturiol yn bosibl diolch i rodd o £600,000 gan Sefydliad Esmée Fairbairn a’r bwriad yw digideiddio delweddau o bob math o ddisgyblaethau – daeareg, botaneg, hanes diwydiannol a chelf.
Bydd hyd at 10,000 o luniau wedi cael eu digideiddio erbyn diwedd y project ym mis Ebrill 2015 ac mae detholiad o’r lluniau hyn yn cael eu cynnwys yn yr arddangosfa.
Ar gyfer y project Delweddau Naturiol cafodd yr enghreifftiau gorau yng nghasgliad rhyfeddol yr Amgueddfa o tua 500,000 o ffotograffau ac eitemau hanesyddol eu trosglwyddo i fformat digidol hygyrch.
Mae’r delweddau yn cynnwys:
- Portreadau ffotograffig o ddiwedd y 19eg ganrif
- Casgliadau o ffotograffau gwreiddiol o Gaerdydd a’r fro yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif
- Casgliad o luniau o goed ‘nodedig’ Cymru
- Ffotograffiaeth arloesol o fywyd gwyllt o ddechrau’r 20fed ganrif
- Delweddau o longau o gwmpas Dociau Caerdydd yn y cyfnod 1920-1975
- Lluniau o byllau glo cymoedd y de, uwchben ac o dan y ddaear, o’r 1970au a’r 1980au
- Delweddau a dynnwyd yng Nghymru gan y ffotograffydd arloesol John Dillwyn Llewelyn yn ystod y 1850au a’r 1860au
- Ffotograffau o safleoedd cloddio archeolegol yn ystod y 1930au.
Mae cyfle i ymwelwyr yr Amgueddfa ddarganfod sut mae ffotograffiaeth wedi cyfrannu at hanes gweledol Cymru diolch i’r deunydd ffotograffig fydd i’w weld, ac sydd yn gosod hanes ffotograffiaeth o fewn cyd-destun datblygiad casgliadau’r Amgueddfa.
Mae’r arddangosfa hefyd yn olrhain esblygiad ffotograffiaeth, o fod yn gofnod gwyddonol a chymdeithasol i’w defnydd fel cyfrwng artistig.
Mae detholiad mwy helaeth o’r delweddau gafodd eu digideiddio fel rhan o’r project yn cael ei daflunio ar un o waliau’r arddangosfa a bydd ymwelwyr hefyd yn gallu chwilio’r gronfa ddata ar-lein a grëwyd fel rhan o’r project. Bydd delweddau’n cael eu hychwanegu at y gronfa ddata tan ddiwedd yr arddangosfa, a bydd y gronfa ddata wedi’i chwblhau yn cael ei lansio ar ddiwedd Ebrill.
Mae’r arddangosfa yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd tan Ebrill 19.
Lluniau Amgueddfa Cymru
sylw ar yr adroddiad yma