Mae’r beirniaid bellach wedi dewis y 12 a fydd yn perfformio yn rhagbrofion byw Gig Fawr 2015.
Gwnaeth bron 100 o gerddorion gyflwyno caneuon yn y gystadleuaeth, sy’n cael ei chynnal gyda Gŵyl Caerdydd a Nation Radio.
Byddan nhw’n awr yn brwydro o flaen gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant a fydd yn beirniadu eu perfformiadau yn ystod y rownd gynderfynol ar ddydd Mawrth 14 Gorffennaf a dydd Mercher 15 Gorffennaf, yng Nghlwb Ifor Bach, gyda’r chwech uchaf yn mynd benben â’i gilydd yn y rownd derfynol ar ddydd Mawrth 16 Gorffennaf.
Y rhai sy’n perfformio nos Fawrth 14 Gorffennaf yw:
- The Broadcasts
- House of Bastion
- Mixalydia
- Grace Hartrey
- The Bleedin Noses Third Party
Ar nos Fercher 15 Gorffennaf bydd y bandiau canlynol yn cystadlu:
- Siobhan McCrudden
- The Marks Cartel
- Rogora Khart
- Ofelia
- Olivia & The Saint
- NYX
Bydd yr enillwyr cyffredinol yn ennill pecyn o wobrau a fydd yn eu helpu i ddatblygu eu gyrfa yn y diwydiant cerddoriaeth gan gynnwys amser recordio ac ymarfer yn Stiwdios Music Box, gan gynnwys cyfle i weithio gyda chynhyrchydd REM, Charlie Francis, amser ar yr awyr ar Nation Radio, cyfweliad a chyhoeddusrwydd yn Media Wales, a gig gefnogi yng Nghlwb Ifor Bach.
Mae tocynnau ar gyfer penwythnos y rownd derfynol yng Nghlwb Ifor Bach yn £5 ac ar gael ar-lein neu drwy ffonio 029 20 230 130.
I gael manylion am sut y gallech ennill tocynnau i’r Gig Fawr, dilynwch @cyngorcaerdydd ar Twitter neu hoffwch dudalen Facebook Cyngor Dinas Caerdydd.
sylw ar yr adroddiad yma