Sian B Roberts yw perchennog cwmni Loving Welsh Food, sy’n cynnig teithiau a gweithgareddau sy’n defnyddio a dathlu cynnyrch lleol.
Yma mae Sian yn rhannu ei rysait arbennig ar gyfer cyri.
Fe fuon ni’n byw yn Affrica pan o’n ni’n fach, ac mi ddysgodd Mami – Menna – sut i neud cyri yn Tanzania.
Rysáit teuluol sydd gen i isod ar gyfer unrhyw fath o gig sy’n weddill ar ôl Dydd Nadolig, neu ginio Dydd Sul.
Yn lle defnyddio’r “Red Thai Curry paste” mae Paul o Gaerdydd yn paratoi cymysgedd o sbeisys ar gyfer cyri. Brenin Cyri Caerdydd, mae’n debyg! Mae rhagor fan hyn.
Cyri Menna
Cynhwysion
- 2 lwy fwrdd o olew llysiau
- 2 winwnsen
- 2 ewin o arlleg
- llwy de o sinsir ffres wedi ei falu
- llwy fwrdd o flawd plaen
- llwy fwrdd o bast tomato
- llwy de o cumin
- llwy de o turmeric
- 2 llwy de o coriander ffres
- llwy de o “Red Thai curry paste” (ar gael yn yr archfarchnadoedd, delis …)
- 200g o gig wedi ei goginio (twrci, ffowlyn, cig oen, eidion)
- 1 litr o stoc ffowlyn neu lysiau
Dull
Rhowch yr olew llysiau mewn sosban i dwymo. Ychwanegwch y garlleg a’r sinsir am funud neu ddwy. Ychwanegwch y winwns a’r garlleg a’u coginio nes eu bod nhw’n feddal ( 3- 4 munud).
Diffoddwch y gwres ac ychwanegwch y blawd, past tomato, cumin, turmeric, hanner y coriander, a’r past Thai a’u cymysgu. Coginiwch y gymysgedd am 2 funud (ar wres isel iawn).
Diffoddwch y gwres eto ac ychwanegu’r stoc, yn ara deg, nes bod y stoc a’r gymysgedd wedi cymysgu’n iawn. Dewch a’r cyri i’r berw, ychwanegwch y cig a choginiwch am 30 – 40 munud ar wres isel. Trowch y gymysgedd o bryd i’w gilydd.
Jest cyn gweini, ychwanegwch y coriander ffres.
Gweinwch gyda reis, bananas wedi sleisio, tomatoes, cnau coco, a siytni mango.
I ddysgu mwy am Sian a’i chwmni, ac i gysylltu hefo hi, ewch i’r wefan http://lovingwelshfood.uk/#cymraeg.
Os ydych chi dal yn chwilio am anrheg Nadolig arbennig, mae talebau – gift vouchers – ar werth ar y wefan i ymuno â Sian ar un o’i theithiau bwyd blasus.
sylw ar yr adroddiad yma