gan Haf Hayes o BacwsHaf
Mae’n wythnos y cypcêc – hwre!
Unrhyw esgus i gael bwyta cacen, ond ydych chi ‘rioed wedi ystyried beth yw tarddiad ein cupcakes pert a blasus ni?
Chi’n hollol gywir, o’r Unol Daliaethau wrth gwrs. Nol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg dechreuwyd pobi’r cacenne bychain hyn a oedd ynchwyldroadol a wnaeth arbed amser yn y gegin.
Bydden nhw’n pobi’r cacennau bychain mewn llestri crochenwaith maint cwpannau te.
Felly dyna’r tarddiad tu ôl i’r boutique bakeries sy’n gwerthu cupcakes anhygoel o bob lliw a blas erbyn hyn.
Mae digonedd o lyfrau rysait ar bobi’r cacenne hyn, felly bant a ni wythnos ma i ddathlu a gloddesta!
Dilynwch BacwsHaf ar Twitter: @Bacwshaf neu ewch i’r wefan.
sylw ar yr adroddiad yma